Gwerthusiad o gyfraniad cwrs B.Add. mewn-swydd y Coleg Normal i ddatblygiad proffesiynol athrawon

Electronic versions

Documents

  • Richard Tudor Ellis

Abstract

Amcan yr astudiaeth oedd ceisio gwerthuso cyfraniad cwrs B.Add. Mewn-Swydd Y Coleg Normal i ddatblygiad proffesiynol yr athrawon fu'n ei fynychu. Diffiniwyd datblygiad proffesiynol gyda sylw i'rtheori meini prawf (trait theory). Fel canlyniad, ynyswyd nifer o feini prawf oedd yn berthnasol i addysgu a cheisiwyd canfod i ba raddau ac ymha ffyrdd yr oedd y cwrs wedi cyfrannu tuag at yr agweddau hyn. Ymhellach, gwnaethpwyd astudiaeth atodol i geisio canfod a oedd ffactorau megis profiad addysgu, statws proffesiynol, rhywyrymgeisydd a phrofiad blaenorol o H.M.S., wedi dylanwadu arymateb a chanfyddiad yr athrawon o'r cwrs. Ceisiwyd hefyd canfod barn yr aelodau am y gwahanol ddulliau addysgu a ddefnyddiwyd ar y cwrs. Mabwysiadwyd strategaeth driphlyg i astudio'r broblem :-(i) defnyddiwyd tystiolaeth ddogfennol -traethodau hiryr aelodau - i ganfod sut 'roedd ymchwil wedi cyfrannu i'r maen prawf ymchwil. (ii) lluniwyd holiadur oedd yn gyfrwng i gael ymateb cyn-fynychwyr y cwrs i'r modd yr oedd y cwrs wedi cyfrannu i'r meini prawf perthnasol. ยท (iii) cyfwelwyd rhai o'r aelodau i geisio ymestyn y wybodaeth a ddaeth i law trwy gyfrwng yr holiadur. 'Roedd y canlyniadau yn dangos fod y cwrs wedi llwyddo i ymestyn ymwybydd-iaeth flaenorol yr athrawon parthed addysgu,wedi lleihau rhywfaint ar ragfarn yn erbyn theori, wedi eu goleuo parthed newydd-deb, yn ogystal a'u hysgogi i ddarllen llenyddiaeth broffesiynol. Parthed ymchwil, casglwyd gwybodaeth ynglyn a'r gwasanaeth tiwtro, canfyddwyd mai tua hanner yn unig o'r aelodau a lwyddodd i ganfod problem gydnabyddiedig i ymchwilio iddi. Cafodd yr athro-ymchwilwyr eu poeni gan brinder amser a chan wrthdrawiad rol yr athro a'r ymchwilydd. Llwyddodd y cwrs hefyd i gryfhau statws proffesiynol yr athrawon yn ogystal a'u hysgogi i dreialu ffyrdd mwy blaengar o addysgu. Yn al canlyniadau'r astudiaeth atodol, 'roedd nifer o'r ffactorau y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol - yn arbennig felly statws proffesiynol a'r math o ysgol 'roedd yr athro'n dysgu ynddi - wedi dylanwadu ar ymateb a chanfyddiad aelodau'r cwrs.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
    Award date1990