Hanes y ddrama ym Mon 1930-1975
Electronic versions
Documents
O Arthur Williams PhD 2006 - OCR
74.4 MB, PDF document
Abstract
Ymgais yw'r traethawd hwn i gofnodi ac i gloriannu hynt a helynt y
ddrama ym Mon yng nghanol yr ugeinfed ganrif gan ganolbwyntio'n arbennig ar
ddatblygiad y ddrama Gymraeg. Cydnabyddir mai dewisiadau hollol bersonol
yw'r ffiniau 1930 a 1975 ond, yng nghorff y gwaith, ceisir eu cyfiawnhau a'u
cadarnhau fel dwy garreg filltir arwyddocaol yn hanes y ddrama yn y sir.
Ysbrydolwyd yr awydd i ymgymryd a'r dasg yn bennaf gan gyfrol Elsbeth
Evans, Y Ddramayng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 1947. Yn y gyfrol fer honno,
ceir amlinelliad o ddatblygiad ysbeidiol y ddrama Gymraeg o'i dechreuad yn yr
Oesoedd Canol, hyd ganol yr ugeinfed ganrif, acer hwyluso'r amlinelliad hwnnw
rhannwyd yr hanes yn dri chyfnod clir - gorffennol, presennol a dyfodol. Y n
seiliedig ar y rhaniadau hyn, ceisir mynd ati i bwyso a mesur yr hyn a
ddigwyddodd ym myd y ddrama yin Mongan gydnabod mai datblygiad naturiol
ydoedd, ac mai enghraifft yn unig oedd Mon o'r hyn a ddigwyddodd yn
gyffredinol ledled Cyrnru yn ystod yr un cyfnod.
Wrth edrych yn 61 ar ddeugain mlynedd cyntaf yr ugeinfed ganrif, dyma
beth a ddywedodd Elsbeth Evans:
[F]e welir cynnydd amlwg iawn ym myd actio, llwyfannu, cyfansoddi,
beimiadu a meddwl am ddrama. A'u cymryd at ei gilydd, y blynyddoedd
o 1911 a 1927 yw'r rhai gorau o ran eu dramau a'u beimiadaethau ...
Cadarnhawyd geiriau Elsbeth Evans gan Dafydd Glyn Jones. Wrth osod ffiniau i
'oes aur y ddrama Gymraeg', mentrodd Jones yn 1973 'ddynodi dengmlwydd ar
hugain o'r cyfnod, 1910-1940' fel yr oes aur honno. Teimlir yn eithaf ffyddiog,
felly, bod cynnig 1930 fel un o ffiniau'r gyfrol bresennol yn gynnig eithaf agos
i'w le.
Wrth gloi ei phennod ar sefyllfa'r ddrama yng Nghymru yn 1947,
dywedodd Evans fod 'gan y Ddrama Gymraeg law er o ffordd i deithio', ac ar sail
y geiriau hyn manteisiwyd ar y cyfle i ddilyn y daith honno ym Mono 1947
ymlaen.
Roedd hi'n anodd, os nad yo arnhosibl, i Elsbeth Evans fedru rhag-weld y
dyfodol ac, o'r herwydd, byr a chyfyngedig oedd ei phennod olaf. Fodd bynnag,
ceir arweiniad pellach gan Dafydd Glyn Jones. Yn ei fam ef, fe berthyn 'yr hen
ddrama' Gymraeg i'r cyfnod rhwng 1886 a 1958 pryd y 'daeth diwedd ar yr hen
ddrama pan giliodd ei chynulleidfa'. Mae Jones yn hollol sicr ei fam gan iddo ef
ei hun 'weld y peth yn digwydd. Hydref 1958 ydoedd'. Ond ym Mon, credir
bod digon o dystiolaeth ar gael sy'n awgrymu fod apel yr 'hen ddramau' wedi
ymestyn drwy'r chwedegau hyd at ddechrau'r saithdegau. Ar sail hyn,
penderfynwyd dew is 197 5 fel ail ffin y gyfrol hon.
Cydnabyddir, wrth gwrs, nad yw'n bosibl cadw'n gaeth at 1930 a 1975 ac
ni ellir, chwaith, ynysu datblygiad y ddrama ym Mon o'r hyn oedd yn digwydd
yng ngweddill Cymru, yn Lloegr, yn Iwerddon ac yn Ewrop. Roeddynt i gyd yn
rhan o'r un datblygiad. O'r herwydd, ceisir olrhain hanes y ddrama Gymraeg o
ddegawdau olaf y ddeunawfed ganrif, a'i ddilyn ymlaen drwy gyfnod hir o
orthrwm crefyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac wedyn drwy'r cyfnodau o
newidiadau cymdeithasol a ddilynodd y ddau ryfel byd yn hanner cyntaf yr
ugeinfed ganrif. Drwy wneud hynny, ceisir croniclo 'ewyllys da a hunan-aberth
dynion a merched sydd eisoes yn gwneud gwaith amser-llawn mewn cyfeiriadau
arall'. Dyma'r math o bobl fu'n
[t]ramwyo'r ffyrdd ar bob tymor a phob tywydd, weithiau ddwywaith a
thair yr wythnos wrth ganlyn y ddrama, wedi diwrnod o waith mewn siop,
fferm a swyddfa, heb ddimai o elw personol. Dilyn eu hawydd a chael
llawer o hwyl .. . Ond, [hefyd, caed y] teimlad eu bod yn arloesi ac yn
gosod sylfeini ac yn buddsoddi eu doniau mewn rhywbeth a fyddai 'n
cyfoethogi bywyd Cymru yn y man.
Os na chroniclir yr hanes yn fuan, fe gollir talp mawr o hanes y ddrama
Gymraeg, yn arbennig felly ym Mon. Ymgais sydd yma, felly, i ddiogelu rhan
bwysig o'r diwylliant Cymraeg. Yng nghorff y gyfrol, ceisir cyfleu
gwerthfawrogiad o waith a chyfraniad cwmni:au drama Mon ynghyd a'r
cynhyrchwyr, yr actorion, pobl cefn llwyfan, cefnogwyr, trefnwyr, Cyngor Gwlad
Mon, Cymdeithas Ddrama Llangefni ynghyd a ffrwyth dylanwadol y gymdeithas
honno, Y Theatr Fach. Rhoddir, hefyd, le amlwg i gyfraniad yr Wyl Ddrama
Genedlaethol yn y sir, ynghyd ag Eisteddfod Mon.
Fel y dywedodd Elsbeth Evans yn 1947, '[y] mae gan y Ddrama Gymraeg
lawer o ffordd i deithio'. Y cwestiwn sydd raid ei ofyn heddiw ydy faint o'r
ffordd honno, tybed, sydd ar o1 i'w theithio?

Details
Original language | English |
---|---|
Awarding Institution | |
Supervisors/Advisors | |
Award date | 2006 |