Hanes y Degwm yng Nghymru yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, gyda sylw arbennig i ‘Ryfel y Degwm’.

Electronic versions

Documents

  • Siôn Jones

Abstract

Y mae’r traethawd hwn yn astudio hanes y degwm yng Nghymru o’r 1790au hyd at yr 1890au. Rhoddir sylw neilltuol i wrthglerigiaeth er mwyn asesu a oedd talu degymau i’r Eglwys Sefydledig wedi creu drwgdeimlad ar y lefel sylfaenol. Yn ogystal â hyn, edrychir ar yr elfen ‘foesol’ ynghylch talu’r degymau, ac i ba raddau y chwaraeodd y ‘gydwybod Ymneilltuol’ rôl yn hyn. Wedi arolygu’r llenyddiaeth berthnasol, y mae’r traethawd yn edrych yn fanwl ar y ‘wedd gyntaf’ o anniddigrwydd ynghylch y degymau yng Nghymru yn ystod cyfnod y Chwyldro yn Ffrainc. Dilynir hyn gan astudiaeth o’r ‘ail wedd’ yn ystod yr 1830au, cyn mynd ymlaen i edrych ar y cyfnod ‘distaw’ hwnnw o bron i hanner canrif rhwng 1836-1886. Y mae ail hanner o’r traethawd yn ffocysu ar ‘Ryfel y Degwm’ (fel y’i gelwid), rhwng 1886-1895. Rhoddir cyfrif cryno o’r cythrwfl yn gyntaf er mwyn gosod y penodau thematig sydd i’w dilyn o fewn cyd-destun cronolegol. Y mae’r bennod thematig gyntaf yn archwilio’r enghreifftiau o wrthglerigiaeth ar y lefel sylfaenol, megis creu a llosgi delwau o glerigwyr, yn ogystal ag enghreifftiau o fandaliaeth a bygythiadau. Dilynir hyn gan arolwg o gyflwr ariannol y clerigwyr ar y pryd, ac i ba raddau yr effeithiodd hyn ar eu bywydau beunyddiol. Diweddir yr adran drwy edrych yn fanwl ar y ‘cynhyrfwyr a’r cynhyrfus’, sef y bobl gyffredin a gymerodd ran yn ‘Rhyfel y Degwm’. Drwy ymdrin â hanes y degwm yng Nghymru yn y modd hwn, y mae’n bosib ychwanegu at ein dealltwriaeth drwy ail-gloriannu’r hen chwedl bod talu’r degymau yn anathema i Anghydffurfwyr, yn ogystal â chwalu’r fytholeg sydd wedi datblygu ynghylch ‘Rhyfel y Degwm’.

Details

Original languageEnglish
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Award dateJan 2017