Hanes yr Eisteddfod ym Môn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, o 1800 hyd 1850

Electronic versions

Documents

  • Meirion Llewelyn Williams

Abstract

Wrth drafod llyfrau yn Yr Efrydydd, 1940, dywed Gwenallt: Cafodd y bedwaredd ganrif ar bymtheg fwy o gam ar ein dwylo na'r un ganrif arall. Gwyddom lai amdani. Ni welwn hi yn glir am ei bod mor agos atom . . . Cyhoedded amdani fel y deallom hi yn well.
Bwriad y traethawd hwn yw olrhain hanes yr eisteddfod ym Môn am ran o'r
ganrif gymhleth honno, sef o 1800 hyd 1850. Yn y 'Rhagarweiniad' cyflwynir
braslun o gefndir y traddodiad maith a roes fod i'r eisteddfod fel sefydliad. Yn
nesaf eir ati fesul pennod i drafod pob eisteddfod yn fanwl yn eu trefn amseryddol: yn gyntaf Eisteddfod Môn y Gwyndy 1815, ac yna Eisteddfod Llangefni 1816, Eisteddfod Frenhinol Biwmares 1832, Eisteddfod Gymraeg
Llannerch-y-medd 1835, Eisteddfod Llifon (Bryngwran) 1842, Eisteddfod ddistadl Niwbwrch 1842, Eisteddfod Bodedem 1843, Eisteddfod fechan Aberffraw 1847, Eisteddfod Dafarn Caergybi 1848, Eisteddfod Freiniol Aberffraw 1849, Eisteddfod Llannerch-y-medd 1849 ac Eisteddfod Llangefni 1850. Er mai aelodau Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain a ddaeth â'r eisteddfod swyddogol gyntaf i Fôn yn 1816, yr oedd beirdd gwerinol yr Ynys yn cynnal mân eisteddfodau cyn hynny, megis Eisteddfod Môn y Gwyndy 1815, ond ni cho:fuodwyd eu hanes. Ailwerineiddiwyd yr alwad lenyddol ym Môn gydag Eisteddfod Gymraeg Llannerch-y-medd 1835, a phobl Môn fu'n cynnal eisteddfodau'r ynys o hynny ymlaen. Ar ddiwedd y traethawd cynhwysir llyfryddiaeth ynghyd â mynegai llawn. Mae'r holl ddyfyniadau yn eu horgraffwreiddiol.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
  • University of Wales, Bangor
Supervisors/Advisors
  • Branwen Jarvis (Supervisor)
Award date2004