Rhai o Gymunedau’n Llên: y Lleol a’r Cenedlaethol

Electronic versions

Documents

  • Bethan Lenny Turner

    Research areas

  • PhD, School of Welsh and Celtic Studies

Abstract

Canolbwyntiais ar y modd y mae detholiad o feirdd ac awduron Cymraeg yn darlunio bywyd pentrefol Cymreig a Chymraeg yn fy nhraethawd MA. Cam naturiol oedd symud i’m prosiect PhD, sef dadansoddiad o’r berthynas rhwng y modd y mae beirdd a llenorion yn delweddu’r gymuned leol a’r modd y delweddir y gymuned genedlaethol. Yn anorfod, dethol yw’r ymdriniaeth a phenderfynwyd canolbwyntio ar y syniad o gymuned mewn tri chyd-destun gwahanol, ond tri chyd-destun sydd hefyd yn lled gysylltiedig.
Yn y Rhagymadrodd ymdrinnir â rhai ystyriaethau cefndirol megis dylanwad pellgyrhaeddol myth y werin Gymraeg a’r gwerinwr diwylliedig ar gysyniadau llenyddol ynghylch natur y gymuned Gymreig yn lleol a chenedlaethol. Yn y bennod gyntaf ceir dadansoddiad o nofel Mihangel Morgan, Pantglas. Gwyrdroir y ddelwedd ddyrchafol o’r werin, fel y’i mynegwyd gan O.M. Edwards ac eraill, yn y nofel hon drwy gyfrwng cymeriadau lliwgar a rhyfeddol pentref Pantglas. Gan ei bod yn nofel am gymuned a chwalwyd i greu cronfa ddŵr, elfen ragymadroddol swmpus yn y bennod hon yw archwiliad o’r disgyrsiau tra gwahanol i’w gilydd a ymddangosodd mewn cyfnodau hanesyddol tra gwahanol wrth i sylwebyddion a beirdd ymateb i foddi Capel Celyn a Llanwddyn. Y gymuned farddol a gaiff y lle canolog yn yr ail bennod. Ceir cyfle i graffu’n fanwl ar gylch barddol Bois y Cilie gan roi sylw penodol i sawl agwedd ar eu byd hwy drwy eu syniadaeth gymdeithasol a’u cynnyrch llenyddol. Yn y drydedd bennod trafodir agweddau ar y gymuned genedlaethol yng nghyd-destun crefydd gan archwilio cysyniad y genedl Gristnogol Gymraeg. Archwilir y materion hyn trwy gyfrwng trawstoriad o destunau llenyddol o eiddo Bobi Jones, Pennar Davies a Kate Roberts ac mae’r trafodaethau hynny yn cwmpasu agweddau ar ddelweddau dystopaidd o’r gymuned genedlaethol gan gloi gydag ymdriniaeth â nofel arloesol Owain Owain Y Dydd Olaf.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Bangor University
Supervisors/Advisors
Thesis sponsors
  • Arts and Humanities Research Council (AHRC)
Award date3 Aug 2020