Y Cymro 1932-45: Hanes sefydlu Y Cymro, ei ddatblygiad a'i gynnwys hyd ddiwedd yr ail ryfel byd.

Electronic versions

Documents

  • Rhys Tudud

Abstract

Astudiaeth yw hon o bapur newydd cenedlaethol Y Cymro, o adeg ei sefydlu ym 1932 hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn y bennod gyntaf edrychir ar y modd y sefydlwyd y papur: sut y daeth i fod yn y lle cyntaf a phwy oedd yn bennaf gyfrifol am ei gychwyniad. Ceir brasolwg ar rai o'r teitlau blaenorol a oedd yn dwyn yr enw Y Cymro ynghyd a hanes y cwmni sydd tu 61 i'r papur presennol. Ceir golwg 'tu 61 i'r llenni' hefyd ar yr holl fenter o safbwynt John Eilian, y golygydd cyntaf, yn bennaf, ynghyd ag ambell un arall a oedd yn ymwneud a ' r papur, trwy ddadansoddi llythyrau preifat Percy Ogwen Jones, yr is-olygydd yn ei flynyddoedd cynharaf. Mae'r ail bennod yn astudiaeth o dudalennau blaen y papur, sef dadansoddiad o'r rnodd yr oedd prif adroddiadau'r Cymro yn adlewyrchu cyfnod cyffrous eithriadol yn ein hanes: nid yn unig yn y cyd-destun Cymreig ond hefyd yn y cyd-destun byd-eang yn y blynyddoedd a oedd yn arwain at yr Ail Ryfel Byd ac yn ei gynnwys. Trefnir y dadansoddiad yn thematig a chronolegol, a dyfynnir nifer o'r adroddiadau yn eu cyfanrwydd. Ceir pennod hefyd ar ysgrifau blaen Y Cymro, gan edrych ar y modd yr oedd y papur yn ymateb i brif ddigwyddiadau a datblygiadau'r oes. Edrychir i ba raddau y r oedd safbwynt y papur yn adlewyrchu'r safbwynt cyffredinol yng Nghymru, ac i ba raddau yr oedd ei safbwynt yn newid dros y blynyddoedd: diddoro l iawn yw gweld a yw'n newid gyda thoriad y Rhyfel, er enghraifft. Unwaith eto trefnir y gwaith yn thematig a chronolegol a dyfynnir yn helaeth yn yr un modd. Ceir pennod ar rai o brif golofnau'r Cymro, sef y colofnau a oedd yn ymddangos yn rheolaidd yn y papur, a phennod gyfan ar 'Y Babell Awen' gan Dewi Emrys, y golofn farddol enwocaf a'r un fwyaf llwyddiannus erioed yn hanes y Wasg Gymraeg. Ceir penned yr un ar hysbysebion a lluniau'r Cymro, yn cynnwys dadansoddiad sampl ohonynt. Ary diwedd ceir Casgliad yn dadansoddi'n feirniadol a
g wrthrychol gyfraniad Y Cymro i gymdeithas Gymraeg ei ddydd, gan edrych i ba raddau y bu'n llwyddiant neu'n aflwyddiant yn 61 disgwyliadau ei sefydlwyr a disgwyliadau ei oes.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
  • Dafydd Glyn Jones (External person) (Supervisor)
Award date2000