Y Gelefyddyd Gymodlawn': Gwaith T. Gwynn Jones a cherddoriaeth

Electronic versions

Documents

  • Elen Ifan

Abstract

Mae’r astudiaeth hon yn mynd i’r afael â gwaith y bardd a’r llenor T. Gwynn Jones (1871-1949) yng nghyd-destun cerddoriaeth. Yn y bennod gyflwyniadol, byddir yn cynnig trosolwg o gefndir cerddorol Gwynn Jones, ei allu cerddorol a’i ddiddordeb yn y gelfyddyd, a hynny er mwyn cyd-destunoli’r drafodaeth ddilynol. Ceir hefyd arolwg o wahanol fethodolegau ym maes cerddo-lenyddiaeth (musico-poetics) a theori cyfieithu geiriau caneuon, ac amlinelliad o’r methodolegau y byddir yn eu mabwysiadu ar gyfer yr astudiaeth hon. Bydd y bennod gyntaf yn mynd i’r afael â chaneuon ac iddynt eiriau gwreiddiol gan T. Gwynn Jones. Wrth ymdrin â’r darnau hyn byddir yn sylwi ar ba agweddau ar y farddoniaeth a bwysleisiwyd gan y cyfansoddwyr a’u gosododd, a byddir yn gofyn sut yr effeithir ar ein dehongliad ni o ddarn o farddoniaeth – sydd weithiau’n destun cyfarwydd ac adnabyddus – gan osodiad cerddorol. Yn y bennod hon hefyd fe amlygir y llinynnau cyswllt rhwng Caniadau (1934) a cherddoriaeth, gan fynd i’r afael â chefndir cerddorol nifer o’r darnau a ymddengys yn y gyfrol, ac fe drafodir y geiriau gwreiddiol a gyfansoddodd Gwynn Jones yn arbennig ar gyfer eu gosod i gerddoriaeth. Yn yr ail bennod ceir astudiaeth ar gyfieithiadau T. Gwynn Jones o eiriau caneuon, ac fe ganolbwyntir ar y cyfrolau Welsh Festival Book (1924), Emynau Mynyw (1938), a Cerddi Canu (1942). Y mae’r olaf yn ddetholiad o rai o’r cannoedd o gyfieithiadau a wnaeth Gwynn Jones ar gyfer W. S. Gwynn Williams (1896-1978) a Chwmni Cyhoeddi Gwynn, Llangollen – prif gyfraniad T. Gwynn Jones, fe ellid dweud, yn nghyswllt cyfieithu geiriau caneuon. At hyn, trafodir y gwaith a wnaeth Gwynn Jones a Gwynn Williams ar y cyd yng nghyd-destun y dechneg a ddatblygwyd ganddynt ar gyfer y broses o gyfieithu. Trafodir gweithiau gan T. Gwynn Jones sy’n gysylltiedig â genre cerddoriaeth draddodiadol yn y bennod nesaf. Dangosir sut y mae gwaith cerddorol T. Gwynn Jones yng nghyd-destun cerddoriaeth draddodiadol yn dwyn perthynas â’i ddiddordeb ehangach yn y diwylliant traddodiadol Cymreig, a sut y mae hyn yn ei dro yn perthyn i gorff o waith ‘canonaidd’ y bardd. Yn ogystal â darnau yn ymwneud â cherddoriaeth draddodiadol, ystyrir yn y bennod hon hefyd y gweithiau sy’n ymwneud â cherddoriaeth a gyfansoddodd Gwynn Jones ar gyfer y llwyfan. Edrychir yn fanwl ar wahanol agweddau ar un o weithiau pwysicaf T. Gwynn Jones, yr awdl ‘Tir na n-Og’, yn nwy bennod olaf yr astudiaeth. Bydd y bennod gyntaf o’r ddwy yn olrhain ei datblygiad dros gyfnod o chwarter canrif, gan dynnu ar ddeunydd llawysgrifol yn ogystal ag ar yr amryw gyhoeddiadau o’r gwaith. Fe osodir yr awdl yn ei chyd-destun cerddorol a llenyddol, gan edrych ar sut y bu cerddoriaeth yn gatalydd pwysig yn natblygiad un o weithiau enwocaf y bardd. Yn yr ail bennod sy’n trafod yr awdl, creffir ar yr unig osodiad cyflawn ohoni, sef opera gan David de Lloyd (1883-1948) a gyhoeddwyd gyntaf ym 1930. Dangosir sut y mae astudio darlleniad y cyfansoddwr hwn o waith y bardd yn taflu goleuni newydd ar awdl adnabyddus. Mewn ail gyfrol, cyflwynir rhestr gyflawn o ganeuon gyda geiriau gan T. Gwynn Jones wedi’u trefnu yn ôl math fel atodiad, ynghyd â rhestr o gyfansoddwyr a osododd waith y bardd. Ceir hefyd atgynhyrchiad o destun y gwaith anghyhoeddedig ‘Gwlad yr Hud’, a rhestr o’r gwahanol fersiynau o’r awdl ‘Tir na n-Og’ sydd ar glawr. At hyn, cynhwysir yn atodiadau III, IV, V ac VIII ddyfyniadau cerddorol sy’n berthnasol i’r penodau hynny sy’n trafod darnau cerddorol.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Award dateJan 2017