Yr awen ddemocrateiddiol : agweddau ar waith Gwyn Thomas, 1962-2010

Electronic versions

Documents

  • Elin Angharad Williams

Abstract

Yn y traethawd hwn trafodir agweddau ar elfennau democrateiddiol yng ngwaith Gwyn Thomas (1936- ). Yn y bennod gyntaf trafodir 'llunyddiaeth' Thomas, a'r modd yr harneisiodd gyfryngau megis y teledu a'r radio i geisio ehangu cwmpas ac apel llenyddiaeth Gymraeg, a barddoniaeth yn arbennig. Ceir hefyd drafodaeth ar yr elfen ecffrastig yn ei waith wrth iddo ymateb yn greadigol yn ei gerddi i ffurfiau eraill ar gelfyddyd. Yn yr ail bennod ceir astudiaeth o'r gwaith a gynbyrchodd Gwyn Thomas yn ystod ei gyfnod fel Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2006-08. Trafodir arwyddocad a gofynion y r61 bonno, a'r gwahanol ddulliau a strategaethau a ddefnyddiwyd gan y bardd yn rhinwedd y swydd. Ffocws y
drydedd bennod yw swyddogaeth hanfodol bwysig elfennau megis rhageiriau,
rhagymadroddion, troednodiadau a nodiadau esboniadol ym marddoniaeth Thomas. Archwilir yn y cyswllt hwn eu harwyddocad, gan eu cyd-destunoli drwy eu gosod yn erbyn cefndir yr impetus democrateiddiol sy'n llywio'r oeuvre. Gwaith Gwyn Thomas fel golygydd, addaswr a chyfieithydd a drafodir yn y bedwaredd bennod, a dangosir yn y fan hon sut y mae cludo testunau llenyddol ar draws ffiniau ieithyddol, amseryddol, cyfryngol a chyweiriol yn ganolog i weledigaeth lenyddol Thomas. Yn y bumed bennod cynigir cipolwg ar agwedd ar waith Thomas nad yw wedi cael y sylw beirniadol dyledus hyd yma, sef ei
gyfraniad ym maes y theatr - yn benodol rhwng 1969 ac 1979. Ceir yma archwiliad o ddramau gwreiddiol Gwyn Thomas - yn cynnwys un, Cwmwl o Dystion, a gyhoeddir am y tro cyntaf yn y traethawd presennol - a cheir hefyd astudiaeth o ddwy ddrama Ewropeaidd a gyfieithwyd ganddo. Tynnir sylw hefyd, a hynny am y tro cyntaf, at opera gymuned anghyhoeddedig, wedi'i seilio ar chwedl Culhwch ac Olwen, a luniwyd gan Thomas c.1990. Y mae'r chweched bennod hithau'n mynd i'r afael ag elfen bwysig o'r oeuvre nad yw, hyd yma, wedi denu'r sylw y mae'n ei haeddu, sef gwaith Thomas fel llenor rhyddiaith. Yn y
cyswllt hwn, byddir yn canolbwyntio, wrth reswm, ar y ddau gasgliad o straeon byrion a gyhoeddodd yr awdur (yn 2008 a 2009), ond trafodir hefyd yn hyn o beth y gyfrol Sawl Math o Gath (2002), ynghyd a'r hunangofiant allweddol, Bywyd Bach (2006). Archwilia'r bennod olaf agwedd benodol ar y poblogaidd a 'r democrateiddiedig yng ngwaith Gwyn Thomas, a hynny drwy graffu ar y llinynnau cyswllt arwyddocaol rhwng ei gynnyrch ef ac eiddo rhai o artistiaid y mudiad Pop Art, ac Andy Warhol yn arbennig. Yu y modd hwn gobeithir
dadlennu nifer o baralelau ac analogau a fydd yn goleuo ymhellach waith y Cymro ar draws cyfnod o banner canrif a mwy. Athyn, cynhwyswyd ar ddiwedd y thesis gyfres o atodiadau, ac yn eu plith ohebiaeth e-bost rhwng Gwyn Thomas a'r awdur presennol ynghylch ei waith, atgynyrchiadau o destunau creadigol gan Thomas a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, ynghyd ag arnrywiol gerddi a delweddau. Drwy archwilio yn y modd hwn y gwahanol agweddau ar oeuvre Gwyn Thomas, gobeithir datguddio eu rhyngberthynas, a darganfod mwy ynglyn ag ymgais ddemocrateiddiol un o ffigurau pwysicaf a mwyaf cynhyrchiol llenyddiaeth Gymraeg gyfoes i ehangu gorwelion y llenyddiaeth honno a' i dwyn i sylw cynulleidfa ehangach.

Details

Original languageEnglish
Awarding Institution
  • Bangor University
Supervisors/Advisors
    Award date2014