Yr iaith Gymraeg a Mudiad Ysgolion Meithrin

Electronic versions

Documents

  • Elen Loyd Gareth

Abstract

Bwriad y traethawd hir hwn yw i ymchwilio i ddatblygiad iaith plant oedran cyn-ysgol sy' n mynychu cylchoedd meithrin Mudiad Ysgolion Meithrin. Mae'r ymchwil yn edrych ar y datblygiad ieithyddol dros gyfnod o flwyddyn ysgol gan ddadansoddi'r datblygiadau Cymraeg mewn tri maes, gwrando a deall, siarad a chyfathrebu a sgiliau llythrennedd cynnar. Mae' r ymchwil yn ceisio dadansoddi i ba raddau y mae rhyw, oedran, cyfnod yn y cylch, nifer y sesiynau a fynychir ac iaith y teulu yn effeithio ar eu datblygiad ieithyddol. Edrychir ar ddatblygiad iaith plant o gartrefi Cymraeg a di-Gymraeg. Datblygwyd Ffurflen Datblygiad Iaith i gasglu'r data ar gyfer yr ymchwil. Mae' r ymchwil hefyd yn rhoi darlun o ba mor rhugl yw' r arweinyddion a' r cynorthwywyr sy' n gweithio yng nghylchoedd meithrin dwyrain Cymru. Edrychir ar eu defnydd o ' r iaith yn y cylch a'u hanghenion ieithyddol. Mae Penodau 1 a 2 yn rhoi darlun o hanes yr iaith Gymraeg o 'r dechreuadau cynnar hyd ar y presennol Edrychir ar statws yr iaith a'i defnydd ac ar y newidiadau a fu yn y ganran sy'n ei siarad. Mae Penodau 3 a 4 yn rhoi cyd-des~ i'r ymchwil o safbwynt datblygiad addysg Gymraeg. Mae Pennod 3 yn edrych ar hanes a datblygiad addysg ddwyieithog yng Nghymru ers dechrau' r ugeinfed ganrif Mae Pennod 4 yn edrych ar sefydlu a thwf Mudiad Ysgolion Meithrin, sef y mudiad sy'n gyfrifol am addysg cyfrwng Cymraeg cyn-ysgol yng Nghymru, gan roi cyd-destun i'r maes ymchwil. Cyflwynir methodoleg a chanlyniadau' r pedwar ymchwiliad ym Mhenodau 5, 6, 7 ac 8. Trafodir llunio'r Ffurflen Datblygiad Iaith a' r Holiadur i Arweinyddion. Gwnaed y darn cyntaf o ymchwil yng nghylchoedd meithrin gogledd-orllewin Cymru. Yn yr ail a' r trydydd ymchwiliad monitrwyd datblygiad iaith sampl cenedlaethol o blant dros gyfnod o flwyddyn ysgol. Yn y pedwerydd ymchwiliad edrychir ar anghenion ieithyddol arweinyddion cylchoedd meithrin dwyrain Cymru. Dangosodd canlyniadau ymchwiliad dau a thri bod sgiliau ieithyddol plant cyn-oedran ysgol yn datblygu wrth fynychu cylch meithrin. Awgrymodd dadansoddiadau ystadegol bod nifer o ffactorau yn effeithio ar eu datblygiad ieithyddol. Y pwysicaf o ' r rhain oedd iaith y teulu. Roedd y nifer o sesiynau a fynychai' r plant a' u rhyw hefyd ymysg y newidynnau pwysicaf oedd yn effeithio ar ddatblygiad iaith y plant. Dangosodd canlyniadau'r pedwerydd ymchwiliad bod anghenion ieithyddol staff y cylchoedd meithrin yn amrywio fesul ardal. Gwelwyd bod y galw mwyaf o safbwynt anghenion iaith am gymorth Swyddogion Iaith, cyrsiau iaith byr neu drwy ohebiaeth. Mae Pennod 9 yn integreiddio canlyniadau'r ymchwil a' r penodau cefndirol gan ganolbwyntio ar gynllunio ieithyddol a chaffael iaith. Yn y bennod hon rhoddir tros olwg o' r traethawd hir, adolygir bwriadau'r ymchwil a trafodir prif ganfyddiadau' r ymchwil. Trafodir hefyd gyfyngiadau' r ymchwil a goblygiadau' r ymchwil o safbwynt addysg drochi cyfrwng Cymraeg cyn-ysgol yng Nghymru. Yn olaf, cynigir awgrymiadau ar gyfer ymchwil pellach yn y maes.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
    Award dateOct 2003