Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol

Manylion cyswllt

Gwybodaeth Proffeil

Mae Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Bangor yn cynnwys tua 20 o academyddion sy'n gwneud ymchwil flaengar ar draws agweddau amrywiol ar wybyddiaeth ddynol. Mae ymchwil y Sefydliad yn mynd i'r afael â chwestiynau sylfaenol a heriau'r byd go iawn, mewn unigolion iach, mewn ystod o anhwylderau, ac ar bob cam o fywyd. Rydym yn defnyddio ystod eang o gyfleusterau a thechnegau arbenigol, gan gynnwys fMRI (gan ddefnyddio sganiwr MRI yr Ysgol sydd at ddefnydd ymchwil yn unig), ysgogi’r ymennydd (TMS a tDCS), EEG, tracio llygaid, a recordio symudiad, ynghyd â nifer o ddyfeisiau arbrofol pwrpasol, a nifer fawr o dechnegau ymddygiadol a seicoffisegol.

Mae ymchwil yn y Sefydliad yn perthyn yn agos i Uned Ddelweddu Bangor, ac fe’i cynhelir o dan dair prif thema:
(i) Gwybyddiaeth Gymdeithasol a Niwrowyddoniaeth
(ii) Canfyddiad a Gweithred
(iii) Iaith, llythrennedd a dwyieithrwydd

Gweld graff cysylltiadau