Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol

Manylion cyswllt

Gwybodaeth Proffeil

Cenhadaeth y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol yw gwneud ymchwil sy'n arwain y byd mewn ffisioleg gymhwysol gyda'r diben o wella perfformiad, iechyd a lles pobl.

Rydym yn rhoi’r genhadaeth hon ar waith trwy bedair thema allweddol:

  • Meddygaeth Ataliol ac Adsefydlu
  • Pobl a’r Amgylchedd
  • Chwaraeon a Pherfformiad Dynol
  • Ffisioleg a Thechnoleg

Rydym yn cynnig gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori i sefydliadau, grwpiau ac unigolion mewn lleoliadau busnes, chwaraeon, lleoliadau clinigol, lleoliadau brys a’r lluoedd arfog. Mae'r projectau cyfnewid gwybodaeth cydweithredol hyn yn effeithiol, ac yn newid pethau er gwell i lawer o sefydliadau a phobl.

Gweld graff cysylltiadau