Sefydliad Ymchwil Llesiant

Gwybodaeth Proffeil

Mae’r Sefydliad Ymchwil Llesiant yn parhau â thraddodiad hirsefydlog o ymchwil gymhwysol ym Mangor yn yr Adran Seicoleg. Mae ymchwilwyr yn y grŵp yn cynnal amrywiaeth eang o ymchwil i iechyd a lles, gan ganolbwyntio ar waith sydd â’r nod o ddeall y ffactorau seicolegol ac ymddygiadol sy'n benodol yn llywio iechyd a lles ac ar yr un pryd datblygu asesiadau ac ymyriadau ar raddfa fawr.

Yn ogystal â chynnal ymchwil flaengar i iechyd a lles, mae ein hymchwilwyr yn gweithio’n agos gydag ymarferwyr yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein hymchwil yn cael effaith ryngwladol, gan gynnwys ym Mangladesh, Jamaica, Unol Daleithiau America, Gweriniaeth Iwerddon, a De Affrica. Yn nes adref mae gennym gysylltiadau cryf ag ymarferwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chyda Llywodraeth Cymru.

Gweld graff cysylltiadau