Mr Abdulmalik Yemi Olaosebikan

!!Postal address

Penrallt Road,
Brigantia
LL57 2AS
Bangor
Y Deyrnas Unedig

Trosolwg

Mae Abdulmalik Yemi Olaosebikan yn ymchwilydd ymroddedig ac yn fyfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’n archwilio’r agweddau o or-gyffwrdd hollbwysig rhwng ethnigrwydd, defnyddio’r gwasanaeth iechyd, a chanlyniadau iechyd meddwl ymhlith gofalwyr teuluol di-dâl yng Nghymru. Ac yntau’n astudio ar gyfer doethuriaeth yn y maes hwn ar hyn o bryd, mae ei waith yn defnyddio dulliau cymysg i ddatgelu rhwystrau diwylliannol-benodol a bylchau systemig. Mae eisoes wedi cwblhaodd MSc mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd, gan ganolbwyntio ar le gallu tybiedig i ofalu, ynghyd â chymorth cymdeithasol, wrth reoli straen ymhlith gofalwyr anffurfiol. Mae hefyd yn dysgu modiwl dulliau ymchwil fel hyfforddwr graddedig, gan arddangos ymhellach ei ymroddiad i ddatblygiad academaidd a mentoriaeth.

Mae Abdulmalik wedi ei gydnabod am ei gyflawniadau ysgolheigaidd, gan ennill Ysgoloriaeth yr Is-ganghellor (2023/2024) ac Efrydiaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru - Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (Carfan 2024). Trwy ei gysylltiad â'r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, mae'n cyfrannu at ymchwil academaidd ac atebion ymarferol ym maes gofal ac iechyd meddwl.

Diddordebau Ymchwil

Meysydd Ymchwil ac Allweddeiriau

Allweddeiriau

  • BF Psychology

Addysg / cymwysterau academaidd

Anrhydeddau (2)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau