Dr Catrin Plumpton

Lecturer

Contact info

c.o.plumpton@bangor.ac.uk

+44 (0)1248 382857

Trosolwg

Mae gan Catrin radd MMath ac MSc mewn Systemau Cyfrifiadurol o Brifysgol Cymru, Bangor, a chwblhaodd ei PhD “Classification methods for fMRI data” yn 2011. Ymunodd Catrin a CHEME yn 2010. Ers hynny, mae Catrin wedi gweithio ar sawl project modelu economaidd iechyd, a’r economeg iechyd o dreialion rheoledig, ac mae wedi goruchwylio myfyrwyr ôl-radd economeg iechyd ym meysydd cyffuriau amddifad a ffarmacogeneteg. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys methodoleg gwerthusiad economaidd yn seiliedig ar dreialon rheoledig  a modelu cost-effeithiol.  

Mae ei ymchwil wedi arwain at dros 30 o gyhoeddiadau gan gynnwys yn y cyfnodolion meddygol mawreddog Lancet a BMJ, yn ogystal â'r cyfnodolion disgyblaeth-benodol o'r radd flaenaf, Clinical Pharmacology and Therapeutics, Value in Health, a Health Economics. Ar hyn o bryd hi yw'r eilydd (dirprwy) Economegydd Iechyd ar gyfer y Grŵp Meddyginiaethau Newydd yng Nghymru.  

Mae Catrin yn arwain ac yn cefnogi yr elfennau economeg iechyd ar gyfer sawl prosiect sy'n cyd-fynd a'i diddordebau.   

Manylion Cyswllt

c.o.plumpton@bangor.ac.uk

+44 (0)1248 382857

Gweld graff cysylltiadau