Dr Eirini Sanoudaki

Darllenydd mewn Ieithyddiaeth (Dwyieithrwydd)

Contact info

 

 

Ebost: e.sanoudaki@bangor.ac.uk

 

 

Trosolwg

Mae ymchwil Dr Eirini Sanoudaki yn archwilio iaith mewn pobl uniaith a dwyieithog, gyda ffocws ar gyflyrau datblygiadol fel syndrom Down. Mae hi’n cydweithio â Chymdeithas Syndrom Down a phartneriaid allanol eraill ar brosiectau sy’n astudio iaith a sgiliau gwybyddol mewn datblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol. Mae hi wedi cyhoeddi’n helaeth yn y maes ymchwil hwn.

Wnaeth hi arloesi mewn ymchwil ar ddatblygiad iaith mewn plant niwroamrywiol dwyieithog Cymraeg-Saesneg, ac mae wedi ennill cyllid ar gyfer prosiectau yn y maes hwn.

Mae hi’n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, Cyfarwyddwr Ycmhwil Olraddedig a Chyfarwyddwr Materion Iaith Gymraeg yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau. Mae hi'n arwain y Llwybr Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd ar gyfer yr ESRC Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC)

Mae Eirini yn angerddol dros ddwyieithrwydd a’r Gymraeg. Yn 2021, enillodd hi wobr genedlaethol am  ddefnydd y Gymraeg yn y gweithle.

Mae Eirini yn bennaeth y Labordy Dwyieithrwydd Plant Prifysgol Bangor.

Grantiau a Projectau

Teaching and Supervision (cy)

Goruchwyliaeth PhD

Charlotte Cooper. Ymchwilio i brofiadau dysgu iaith pobl â chyflyrau niwrowahanol. PhD ESRC Dwyieithrwydd. Dyddiad cychwyn mis Hydref 2024

Jazmine Beauchamp. Datblygiad cytseiniaid mewn plant dwyieithog Cymraeg-Saesneg. PhD ESRC Dwyieithrwydd. Dyddiad cychwyn mis Hydref 2023.

Laura Maguire.  Dwyieithrwydd mewn unigolion sydd â clefyd Alzheimer. MA+PhD ESRC Dwyieithrwydd.  Dyddiad cychwyn mid Hydref 2022.

Maryam Awawdeh. Sgiliau darllen plant dwyieithog Arabeg-Saesneg sydd ag Anhwylder Iaith Datblygiadol (DLD).  PhD ESRC Dwyieithrwydd.  Dyddiad cychwyn mid Hydref 2022.

Gareth Caulfield. Addysg Trochi a Dwyieithrwydd: Archwilio Canfyddiadau, Disgwyliadau a Darpariaeth Effeithiol. PhD ESRC Dwyieithrwydd.  Dyddiad cychwyn mid Hydref 2022.

Jago Williams. Datblygiad dwyieithog mewn plant sydd â diagnosis deuol awtistiaeth ac syndrom Down. MA+PhD ESRC Dwyieithrwydd. Dyddiad cychwyn mis Medi 2021.

Bethan Collins. Sgiliau Uwchwybyddol ac ieithyddol plant sy’n datblygu dwyieithrwydd mewn ysgolion cynradd yng Nghymru. PhD ESRC Dwyieithrwydd. Dyddiad cychwyn mis Medi 2021.

Rebecca Day. Datblygiad dwyieithog pobl sydd â syndrom Rett. MA+PhD ESRC Dwyieithrwydd. Dyddiad cychwyn mis Medi 2019.

Felicity Parry. Agweddau a phrofiadau athrawon o'r broses adnabod anhwylderau lleferydd ac iaith mewn disgyblion dwyieithog. PhD Dwyieithrwydd. Dyddiad cychwyn mis Ionawr 2020.

Athanasia Papastergiou. Sgiliau Iaith ac Uwchwybyddol mewn Plant Dwyieithog Groeg-Saesneg yn y DU. ESRC PhD Dwyieithrwydd. Wedi gorffen yn 2021.

Rebecca Ward. Proffilio Galluoedd Iaith Plant Dwyieithog Cymraeg-Saesneg â Syndrom Down. ESRC PhD Dwyieithrwydd. Wedi gorffen yn 2020.

Maram Alamri. Caffael cysylltiadau gofodol gan ddysgwyr Saesneg Arabeg. Wedi gorffen yn 2020.

Wesam Almehmadi. Nodweddion pragmatig mewn llencynnaidd sydd ag awtistiaeth. Wedi gorffen yn2019.

Addysgu

Mae Eirini yn dysgu modiwlau ar ddatblygiad iaith a chyflyrau niwroddatblygiadol, dwyieithrwydd, a dulliau ymchwil. Mae hi wedi dysgu modiwlau mewn nifer o feysydd eraill o ieithyddiaeth.

  • QXL3316/4416 Language Disorders and Bilingualism
  • QXL3317/4417 Child Language Acquisition
  • QXL4432 Linguistic Research Methods
  • PPP4008 Methods in Language and Bilingualism
  • QXL4400 MA/MSc Dissertation
  • QXL2204 Morphosyntax

Manylion Cyswllt

 

 

Ebost: e.sanoudaki@bangor.ac.uk

 

 

Meysydd Ymchwil ac Allweddeiriau

Allweddeiriau

  • P Philology. Linguistics

Addysg / cymwysterau academaidd

  • BA
  • PhD
  • MA

Cyhoeddiadau (26)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (67)

Gweld y cyfan

Sylw ar y cyfryngau (14)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau