Dr Gareth Evans Jones

Darlithydd Astudiaethau Crefyddol

Contact info

Swydd:   Darlithydd

Ebost:     g.evans-jones@bangor.ac.uk

Ffôn:       01248 382103

Lleoliad: M11a, Prif Adeilad y Celfyddydau

Trosolwg

Yn enedigol o Ynys Môn, deuthum i Brifysgol Bangor yn 2009 i astudio am radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol. Wedi graddio yn 2012, cwblheais MA mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol, cyn ymgymryd â phrosiect PhD ar y cyd rhwng Ysgol Athroniaeth a Chrefydd ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, dan nawdd yr AHRC.

Roedd fy ymchwil doethurol yn archwilio ymatebion crefyddol y Cymry yn yr Unol Daleithiau i fater caethwasiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel y dengys testun fy PhD, mae fy niddordebau academaidd yn eang ac yn rhyngddisgyblaethol, ac yn cynnwys: astudiaethau beiblaidd; derbyniad y Beibl mewn hanes a’i rôl mewn materion cyfoes; crefydd, llenyddiaeth a chymdeithas; hanes caethwasiaeth a moeseg; Iddewiaeth a Christnogaeth, a’u deialog ryng-grefyddol; Siciaeth a Chonffiwsiaeth; Ecoleg a Chrefydd; Athroniaeth Hynafol; Problem Drygioni; Anghydffurfiaeth Gymreig a’r Cymry yn America; diwylliant print y bedwaredd ganrif ar bymtheg; a rôl crefydd yn cynnal hunaniaeth ethnig a chenedlaetholgar mewn cymunedau gwasgaredig.

O’r herwydd, mae’r modiwlau rydw i’n eu haddysgu’n amrywiol ac yn cynnwys moeseg, Iddewiaeth a Christnogaeth, a rôl crefydd mewn materion ecolegol cyfoes.

Rydw i hefyd yn ysgrifennu’n greadigol ac ym mis Hydref 2018, cyhoeddais nofel yn darlunio profiadau’r Iddewon yn ystod yr Holocost, Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn). Cafodd Eira Llwyd ei enwi'n Llyfr y Mis ar gyfer mis Tachwedd 2018 gan Gyngor Llyfrau Cymru. Yn ogystal, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, bûm yn hynod ffodus o ennill y Fedal Ddrama am fy nrama Adar Papur, a chynhyrchwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2020; ac yn Eisteddfod Genedlaethol AmGen 2021, deuthum yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama am fy nrama, Cadi Ffan a Jan. 

Yng ngwanwyn 2022, bydd drama yr ysgrifennais eiriau ar ei chyfer yn teithio Cymru: Ynys Alys (Cwmni'r Frân Wen).

Manylion Cyswllt

Swydd:   Darlithydd

Ebost:     g.evans-jones@bangor.ac.uk

Ffôn:       01248 382103

Lleoliad: M11a, Prif Adeilad y Celfyddydau

Diddordebau Ymchwil

  • Y Beibl a chaethwasiaeth.
  • Anghydffurfiaeth Gymreig a diwylliant print crefyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
  • Iddewiaeth a Christnogaeth a’u deialog ryng-grefyddol.
  • Seioniaeth a Christnogaeth.
  • Llenyddiaeth a Chrefydd.

Teaching and Supervision (cy)

  • Moeseg: Agweddau Crefyddol
  • Cyflwyniad i Iddewiaeth a Christnogaeth
  • Gwrth-Semitiaeth
  • Natur a Chrefydd y Gorllewin
  • Crefydd, Cenedligrwydd a Rhywioldeb
  • Yr Holocost: Ymatebion Crefyddol ac Athronyddol
  • Crefydd yng Nghymru
  • Iddewiaeth yn y Byd Modern
  • Bwdhaeth yn y Byd Modern
  • Y Gaethfasnach Drawsatlantig
  • Astudiaeth Annibynnol
  • Traethawd Hir

Cyfarwyddo MA/MRes

  • Yn cyfarwyddo prosiectau MRes ym meysydd astudiaethau crefyddol ac athroniaeth.

Cyfarwyddo PhD

  • Yn cyfarwyddo prosiectau'n cynnwys rhai am Heraclitus, a llenyddiaeth ffantasi.
  • Yn fodlon cyfarwyddo prosiectau PhD ym meysydd astudiaethau crefyddol, llenyddiaeth a chrefydd, a hanes caethwasiaeth

 

Manylion Cyswllt

Arall

Dyletswyddau Gweinyddol

  • Tiwtor Personol
  • Swyddog Materion Cymraeg
  • Swyddog Cyfathrebu Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas

 

Cydnabyddiaethau/Llwyddiannau

  • Ennill Grant gan Gymdeithas Awduron Prydain i lunio cyfrol o lên feicro (2021).
  • Ennill Gwobr Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Ngwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2019.
  • Ennill Ysgoloriaeth Awdur Newydd gan Lenyddiaeth Cymru i weithio ar nofel (2017).
  • Ennill Ysgoloriaeth Ieithoedd Celtaidd AHRC i gwblhau ymchwil y PhD (2014).
  • Ennill Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen (2013).
  • Ennill Ysgoloriaeth Mynediad i Radd Meistr (ATM) ar gyfer y cwrs MA (2012).
  • Ennill Gwobr Dr John Robert Jones gan Brifysgol Bangor am fod yn un o ‘fyfyrwyr gorau’r flwyddyn’ (2012).
  • Ennill Gwobr Syr John Morris-Jones gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor am ganlyniadau fy arholiadau gradd BA (2012).
  • Ennill Gwobr Robert Richards gan Brifysgol Bangor am ansawdd fy nhraethawd hir israddedig am bwnc yn ymwneud â’r Gyfraith, Astudiaethau Crefyddol neu Hanes (2012).
  • Ennill Gwobr Thomas L. Jones gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor am ganlyniadau arholiadau ail flwyddyn fy ngradd (2011).
  • Ennill Gwobr R. T. Robinson gan Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Bangor, am safon fy ngwaith yn ystod blwyddyn gyntaf fy nghwrs gradd (2010).

 

Aelodaeth

 

  • Cymrawd Cydymaith Academi Addysg Uwch.
  • Aelod o Gyngor Cristnogion ac Iddewon (CCJ).

 

Meysydd Ymchwil ac Allweddeiriau

Allweddeiriau

  • BL Religion
  • BM Judaism
  • BR Christianity
  • BS The Bible
  • BX Christian Denominations
  • BT Doctrinal Theology
  • PN0441 Literary History
  • PN0080 Criticism

Cyhoeddiadau (17)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (39)

Gweld y cyfan

Sylw ar y cyfryngau (3)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau