Dr Giulia Bovolenta

Darlithydd

Diddordebau Ymchwil

Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y mecanweithiau gwybyddol sy'n cefnogi’r broses o ddysgu iaith ymysg oedolion. Yn benodol, mae gennyf ddiddordeb yn y prosesau sy’n digwydd wrth ddysgu, a sut y cânt eu llunio gan wahaniaethau unigol.

Mae fy mhroject presennol yn archwilio sut y mae gwahanol ffynonellau sy’n cyflwyno anawsterau wrth ddysgu iaith (gwahaniaethau unigol a phriodweddau’r mewnbwn) yn effeithio ar y ffyrdd yr ydym yn prosesu ac yn amgodio ffurfiau iaith newydd wrth ddysgu.

Rwyf hefyd wedi gweithio ar agweddau cysylltiedig ar brosesu a dysgu iaith: rhagfynegi wrth brosesu iaith, dysgu ar sail gwallau, a dysgu ymhlyg (dysgu heb ymwybyddiaeth).

Cyhoeddiadau (8)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau