Dr Gwawr Ifan

Uwch Darlithydd mewn Cerddoriaeth

Contact info

Swydd: Darlithydd mewn Cerddoreg

Ebost: g.ifan@bangor.ac.uk

Ffon: +44(0) 1248 388 206

Lleoliad: Adeilad Cerddoriaeth, Llawr 1af

Cyfrifoldebau Gweinyddol: Uwch-Diwtor. Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig. Cyd-Gadeirydd y Pwyllgor Trafod Staff-Myfyrwyr.

Manylion Cyswllt

Swydd: Darlithydd mewn Cerddoreg

Ebost: g.ifan@bangor.ac.uk

Ffon: +44(0) 1248 388 206

Lleoliad: Adeilad Cerddoriaeth, Llawr 1af

Cyfrifoldebau Gweinyddol: Uwch-Diwtor. Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchiadau Arbennig. Cyd-Gadeirydd y Pwyllgor Trafod Staff-Myfyrwyr.

Teaching and Supervision (cy)

Modlwlau Is-radd:

Cyfrwng Cymraeg:

- Astudio Cerddoriaeth

- Cerddoriaeth mewn Iechyd a Lles

- Y Celfyddydau yn y Gymuned

Cyfrwng Saesneg:

- Music in Health and Wellbeing

- Arts in the Community

- Music Teaching in Context

- Dissertation: Music in the Community

Modiwlau Ol-radd:

- Music in Society

 

Myfyrwyr PhD

Cyfredol (Goruchwyliwr 1af)

- Bethan Habron James: 'Exploring the meaning of Dalcroze Eurhythmics in the life journey of a Dalcroze practitioner: An autoethnography'.

- Rachel Priamo: 'The role of culture in music therapy: case studies from north Wales'.

Cyfredol (2il Oruchwyliwr):

- Catherine Jones: 'Music in the slate-quarrying industry in Bethesda, 1850-1914'.

- Emma Peake: Mae Emma yn gweithio ar iechyd cerddorion.

- Muhammah Bin Abdul Rais: Abodes of Harmony: An investigation of session culture in Gwynedd.'

 

Diddordebau Ymchwil

Rwyf yn ymchwilio i'r berthynas rhwng cerddoriaeth, iechyd a lles, ac rwyf yn awyddus i archwilio dulliau newydd ac arloesol o fesur effaith gymdeithasol creu cerddoriaeth.  Mae gen i ddiddordeb yn y rol sydd gan gerddoriaeth i'w chwarae drwy:

  • Adeiladu perthnasau sy'n pontio'r cenedlaethau:

Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi gweithio'n agos gyda Chanolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio er mwyn datblygu rhaglenni cerddorol i ddisgyblion ysgol a phreswylwyr cartrefi henoed, drwy brosiect Corneli Cudd 

Mae gwybodaeth bellach am y prosiect ar gael yma:

Corneli Cudd 1 (Enillydd BAFTA Cymru, ffilm gan Osian Williams):  https://www.youtube.com/watch?v=D2fKz3smceA

Corneli Cudd 2: https://www.youtube.com/watch?v=hDCBhHlq7hI

Corneli Cudd 3: https://pontiobangor.tumblr.com/post/113861412892/rhannu-profiadau-corneli-cudd-3-pontio-sharing

Corneli Cudd 4: http://www.codirto.com/english/index.html

 

  • Creu cymunedau o berthyn

Rwyf wedi gwneud ymchwil eang i'r berthynas rhwng canu a lles, gan ganolbwyntio'n benodol ar y traddodiad canu corawl yng Nghymru.  Rwyf ar hyn o bryd yn awyddus i ddatblygu'r ymchwil ymhellach er mwyn archwilio arferion 'cerddori' siaradwyr Cymraeg, a'r rol sydd gan gerddoriaeth i'w chwarae wrth greu cymunedau o berthyn i siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.

 

  • Pontio rhwng sefydliadau addysg uwch a chymunedau lleol

Rwyf bob amser yn anelu i gyfuno ymchwil, addysgu a chyfleoedd cyflogadwyedd i fyfyrwyr. Drwy fy ymchwil, anelaf i ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr cerddoriaeth i gael profiadau newydd drwy gydweithio ar brosiectau arloesol gyda sefydliadau lleol. 

Enghraifft o gydweithwyr lleol: Codi’r To: http://www.codirto.com/ 

Cyhoeddiadau (10)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (34)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau