Mrs Helen Edwards

Darlithydd mewn Addysg Cerddoriaeth

Aelodaeth

Dolenni cyswllt

Contact info

Mae Helen Jane Edwards yn ddarlithydd mewn Addysg Gynradd, gan arbenigo mewn Cymraeg Ail Iaith yn yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol.  

Y mae hefyd yn Swyddog Derbyniadau ar gyfer y BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC. 

Cafodd ei gradd baglor mewn Cymraeg ac Addysg ym Mhrifysgol Bangor ac yna cwblhaodd gwrs TAR yn y Coleg Normal, Bangor.

Dechreuodd ei gyrfa dysgu yn Ysgol St.Gerard, Bangor, lle dysgodd yn y sector cynradd ac uwchradd. Yma rodd yn gyfan gwbl gyfrifol am ddysgu Cymraeg Ail Iaith yn yr ysgol gynradd ac uwchradd, o'r Cyfnod Sylfaen hyd at CA5. 

Ar ôl 7 mlynedd, aeth ymlaen i ddysgu yn Ysgol John Bright Llandudno, lle'r oedd hefyd yn Ddirprwy Bennaeth Gofal Bugeiliol ar gyfer Blwyddyn 8. 

Ar ôl cael dyrchafiad yn ddirprwy bennaeth Cyfadran y Gymraeg ac Ieithoedd Modern, symudodd i Ysgol Bryn Elian, Hen Golwyn lle dysgodd Gymraeg fel ail iaith dros 12 mlynedd. Bu'n Bennaeth y Gyfadran ddwywaith hefyd. 

Yn ystod ei gyrfa dysgu, mae wedi bod yn fentor, yn Gydlynydd Cwricwlwm Cymreig, yn Gydlynydd Dwyieithrwydd, yn Gadeirydd Pwyllgor Clwstwr Cymedroli CA2/CA3 a Chydlynydd Trawsnewid CA2/CA3 ar gyfer Cymraeg Ail Iaith.  

Ym Medi 2014, ymunodd â'r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol fel darlithydd mewn Addysg Gynradd, gan arbenigo mewn Cymraeg Ail Iaith.  Ym Mehefin 2015 fe'i penodwyd yn Ddirprwy Swyddog Derbyniadau ar gyfer y BA(QTS), BA(SAC), cyrsiau PGCE a TAR ac yna ym Mehefin 2016, ymgymerodd â'r swydd Cydlynydd Derbyniadau ar gyfer y cyrsiau BA(QTS) a BA(SAC). 

Yn ddiweddar, mae wedi creu llyfrynnau a chanllawiau i hyrwyddo dwyieithrwydd ar draws yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol, ac i gynorthwyo staff â defnyddio ‘Cymraeg Bob Dydd’ (Incidental Welsh) yn eu darlithoedd ac wrth e-bostio a sgwrsio gyda darpar-athrawon.  
Y mae hefyd yn cynghori Cydlynwyr Iaith Gymraeg mewn ysgolion partneriaeth ar sut i hyrwyddo'r defnydd o Gymraeg bob dydd. 

Mae'n aelod o bwyllgor Cynllun Colegau Cymru. 

Addysgu 

Mae'n dysgu ar y modiwlau/cyrsiau canlynol:

  • BA(QTS);
  • BA(SAC);
  • PGCE 3 – 7 a 7 – 11;
  • PGCE Uwchradd;
  • Gradd Sylfaen (FdA).

Grŵp Ymchwil 

Dwyieithrwydd, Datblygiad Iaith ac Addysg Ddwyieithog 

Manylion Cyswllt

Gweld graff cysylltiadau