Prof Huw Pryce

Athro Hanes Cymru

Contact info

Swyddfa: T17, Prif Adeilad y Celfyddydau

Tel. 01248 382151

Ebost: a.h.pryce@bangor.ac.uk

Overview (cy)

Bywgraffiad a meysydd ymchwil

Addysgwyd Huw Pryce yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (BA 1979, DPhil 1985). Ymunodd â’r staff ym Mangor yn 1981 ac fe’i penodwyd yn Athro Hanes Cymru yn 2005. Yn 2011 fe’i hetholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Roedd ei thesis doethur yn ymwneud â’r gyfraith Gymreig a’r Eglwys yn yr oesoedd canol, ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes Cymru yn yr oesoedd canol, yn cynnwys cyfrol o’r dogfennau a luniwyd gan dywysogion brodorol Cymru 1120–1283. Hefyd sefydlodd gyfres o gynadleddau ar Gymru’r oesoedd canol a gynhelir bob yn ail blwyddyn ym Mangor er 2002.

Mae ei ymchwil bresennol yn canolbwyntio ar hanesyddiaeth Cymru. Ei lyfrau diweddaraf yw astudiaeth o’r hanesydd John Edward Lloyd (1861–1947), Athro Hanes ym Mangor, a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu hanes Cymru fel pwnc academaidd modern, a chasgliad wedi’u cyd-olygu o ysgrifau’n ymwneud â’r ffordd yr astudiwyd y gorffennol yng Nghymru ac mewn gwledydd bychain eraill rhwng 1850 a 1950. Huw Pryce yw cyd-olygydd Cylchgrawn Hanes Cymru (Welsh History Review) ac un o olygyddion cyfres monograffau Boydell, Studies in Celtic History.

Ymchwil: Prosiectau Cyfredol a Diweddar

Hanesyddiaeth Cymru

Dros y degawd diwethaf rwyf wedi ymddiddori fwyfwy yn y modd y mae hanes Cymru wedi’i sgrifennu a beth all hyn ei ddweud wrthym am y defnydd o’r gorffennol a chreu hunaniaethau, yn arbennig mewn cenhedloedd bach. Yn ogystal ag astudiaethau ar Gerallt Gymro ac ar nifer o haneswyr yr ugeinfed ganrif, rwyf wedi cyhoeddi (2011) bywgraffiad deallusol o John Edward Lloyd (1861–1947), hanesydd arloesol ar Gymru’r oesoedd canol a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu hanes Cymru fel pwnc academaidd modern, ac wedi cydolygu â Neil Evans cyfrol o ysgrifau sy’n archwilio sgrifennu hanesyddol yng Nghymru ac mewn gwledydd Ewropeaidd eraill 1850–1950 (2013). Yn 2014 traddodais Ddarlith O’Donnell ym Mhrifysgol Rhydychen ar yr ymdriniaeth â hanes canoloesol Cymru yn oes Victoria. Rwyf hefyd yn Gyd-Archwiliwr ar brosiect mawr AHRC (2017-20) i olygu gweithiau'r hynafiaethydd, hanesydd a mapiwr Humphrey Llwyd (1527-68): 'Inventor of Britain: The Complete Works of Humphrey Llwyd'.

Mae fy mhrif brosiect ymchwil yn adeiladu ar yr astudiaethau hyn, gan arwain at y llyfr cyntaf ar sut y mae hanes Cymru a’r Cymry wedi’i sgrifennu o’r oesodd canol cynnar hyd y presennol: Writing Welsh History: Medieval Legacies and Modern Narratives (o dan gytundeb gyda Gwasg Prifysgol Rhydychen).Cwestiwn allweddol a drafodir fydd pam, hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, y canolbwyntiai gweithiau ar hanes Cymru ar y gorffennol cynnar a chanoloesol, gan ddibynnu’n drwm ar ffynonellau canoloesol, a pham y newidiodd y pwyslais hwn wedyn. Bydd y llyfr felly’n egluro amcanion a chwmpas gweithiau ar hanes Cymru, a beth y mae’r rhain yn ei ddweud wrthym am hunaniaethau Cymreig (gan gynnwys eu hagweddau lleol, Prydeinig a chrefyddol) yn ogystal ag am drosglwyddiadau deallusol a diwylliannol (gan gynnwys dylanwad sgrifennu hanesyddol mewn mannau eraill).

Canoloesoldeb a Hynafiaetheg yng Nghymru’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Yn fy Narlith John V. Kelleher yng Nghynhadledd Geltaidd Harvard yn 2011 trafodais y modd y derbyniwyd yr oesoedd canol yng Nghymru oes Victoria, a’r graddau yr arweiniodd hyn at adfywiad neo-ganoloesol mewn diwylliant gweledol a llenyddol. Daeth dau brosiect pellach yn sgil hyn. Un, mewn cydweithrediad â Gwilym Owen o Ysgol Cyfraith Bangor, oedd astudiaeth fanwl o ymgais i ddefnyddio awdurdod Cyfraith Hywel Dda mewn achos cyfreithiol yn ymwneud â hawliau glan môr yn Sir Fôn yn 1862–4, a gyhoeddwyd yn y Journal of Legal History, 35/2(2014), http://www.tandfonline.com/toc/flgh20/35/2#.VQCLb2ZhSZE. Mae’r erthygl yn ceisio esbonio pam a sut y defnyddiwyd Cyfraith Hywel, a oedd wedi’i diddymu i bob pwrpas gan Ddeddfau Uno 1536–43, fel tystiolaeth yn yr achos ac i ba raddau y golygodd hyn barodrwydd i dderbyn treftadaeth gyfreithiol arbennig Cymru y tu mewn i fframwaith cyfraith gyffredin y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ogystal â dadansoddi’r dadleuon cyfreithiol a gyflwynwyd mae’r astudiaeth yn gosod yr achos yn ei gyd-destunau gwahanol, yn eu plith astudiaeth hynafiaethol o destunau Cyfraith Hywel. Yn ail, rwy’n archwilio diddordebau hynafiaethol Harry Longueville Jones (1806–70), cyd-sylfaenydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru (Cambrian Archaeological Association) yn 1847. Mae’r ymchwil wedi canolbwyntio’n arbennig ar ddylanwad mesurau treftadaeth Ffrengig arno, mesurau y daeth Jones i gymryd rhan ynddynt yn ystod arhosiad ym Mharis (c.1835–42), ac yn destun erthygl yn The Antiquaries Journal, 96 (2016), http://journals.cambridge.org/abstract_S000358151600024X.

Cymru’r Oesoedd Canol

Rwyf wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes Cymru’r oesoedd canol ac yn dal i ymchwilio ar agweddau arno, gan gynnwys Gerallt Gymro. Mae elfen ganoloesol gref i’m gwaith ar hanesyddiaeth, gan ei fod yn cynnwys yr oesoedd canol, a hefyd o’r unfed ganrif ar bymtheg hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif tueddai gweithiau ar hanes Cymru i ganolbwyntio’n bennaf ar wreiddiau hynafol a chanoloesol y Cymry ac i ddibynnu’n helaeth ar ffynonellau canoloesol. Yn 2005 cyhoeddais olygiad o siarteri, llythyrau a dogfennau eraill y tywysogion Cymreig, ac arweiniodd fy ymchwil yn y maes hwn at fy ethol yn 2012 yn aelod o’r Commission internationale de diplomatique, o dan y Comité international des Sciences historiques, sydd wedi cynnig fforwm ar gyfer archwilio siarteri a dogfennau canoloesol eraill o Gymru mewn cyd-destun cymharol.

Meysydd dysgu a goruchwylio

BA

  • Ailddarganfod yr Oesoedd Canol
    Reinventing the Middle Ages
  • Cymru Fyd-eang / Global Wales
  • Ail-greu Cenedl 1800–1920 
    Remaking a Nation 1800–1920

MA

  • Initiating a Research Project
  • Documents and Sources for Medieval and Early Modern History (cyfrannwr)
  • Themes and Issues in History (cyfrannwr)
  • Oes Llywelyn ap Iorwerth / The Age of Llywelyn ap Iorwerth

Myfyrwyr PhD presennol

  • Rhonwen Bruce-Roberts, ‘Medievalism and Welsh Identity, c.1870–1920’
  • Sadie Jarrett, ‘The Identity and Influence of the Salesbury Family of Rhug and Bachymbyd in the 16th and 17th centuries’
  • Shaun McGuinness, ‘The Bishops of Bangor and their Acta, 1092–1307’
  • Daniel Rhydderch-Dart, ‘Making Communities in Modern Wales: Caernarfonshire 1880–1914’

Myfyrwyr PhD blaenorol

  • Edwin Hustwit, ‘The Britons: Power, Identity and Ethnicity, 350–1000’ (2015)
  • Danna Messer, ‘The Uxorial Lifecycle and Female Agency in Wales in the Twelfth and Thirteenth centuries’ (2014)
  • Owain Wyn Jones, ‘Historical Writing in Medieval Wales’ (2014)
  • Euryn Roberts, ‘Hunaniaeth Ranbarthol yng Nghymru’r Oesau Canol, c.1100–c.1283’ (2013)
  • Gwenno Angharad Elias, ‘Golygiad o Lsgr. Peniarth 164 o Gyfraith Hywel’ (2007)
  • Matthew J. Pearson, ‘Welsh Cathedral Chapters, 1100–1300’ (2000)
  • Stefan Narkiewicz, ‘The Speculum Ecclesiae of Gerald of Wales: An Historical Analysis and Commentary’ (1995)

Contact Info (cy)

Swyddfa: T17, Prif Adeilad y Celfyddydau

Tel. 01248 382151

Ebost: a.h.pryce@bangor.ac.uk

Cyhoeddiadau (47)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau