Professor Jason Davies

Athro mewn Cymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg yn Saesneg

Contact info

Position: Senior Lecturer

Email: wes009@bangor.ac.uk

Phone: +44 (0) 1248  38 2240

Location: Room 3, Professor’s Corridor

Manylion Cyswllt

Trosolwg

Brodor o Aberystwyth yw Dr Jason Walford Davies. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Penweddig yn y dref honno, a graddiodd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor ym 1993. Fe’i hapwyntiwyd yr un flwyddyn i Ddarlithyddiaeth yn yr adran hon. Y mae bellach yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R. S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor.

Yn sgil penodi R. S. Thomas (1913–2000) yn Athro er Anrhydedd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor ym 1999, sefydlwyd Canolfan Ymchwil arbennig er mwyn cydnabod ei gyfraniad a hybu ymchwil ar ei waith. Y mae’r Ganolfan hon yn archif o holl ddeunydd cyhoeddedig R. S. Thomas, ynghyd â chasgliad digymar o gyfrolau beirniadol, ysgrifau, adolygiadau, cyfweliadau a deunydd clywedol yn ymwneud â’i waith. Ceir yn yr archif yn ogystal lawer iawn o ddeunydd anghasgledig ac anghyhoeddedig gan y bardd.

Y mae'r Ganolfan ar gael at ddefnydd ymchwilwyr ar ymweliad - rsthomas.bangor.ac.uk

Prif feysydd ymchwil Jason Walford Davies yw llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a’r ugeinfed ganrif, a Llên Cymru yn Saesneg. Cyhoeddodd yn helaeth ar waith R. S. Thomas, ac ymhlith ei ymdriniaethau â’r bardd hwnnw y mae’r cyfrolau R. S. Thomas: Autobiographies (J. M. Dent: 1997) a Gororau’r Iaith: R. S. Thomas a’r Traddodiad Llenyddol Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru: 2003) – monograff a osodwyd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru/ Y Cyngor Llyfrau, 2004.

http://www.celfcymru.com/sioegelf/index.php?page=6c1491af&cat=21&lang=1

Ymddangosodd ei olygiad o lythyrau R. S. Thomas at y bardd a’r beirniad Raymond Garlick (gohebiaeth hanner canrif) yn 2009 (Gwasg Gomer).

Ef yw golygydd Gweledigaethau: Cyfrol Deyrnged Yr Athro Gwyn Thomas (Cyhoeddiadau Barddas: 2007), a chyd-olygydd Cof ac Arwydd: Ysgrifau Newydd ar Waldo Williams (Cyhoeddiadau Barddas: 2006) – cyfrolau sy’n cynnwys astudiaethau estynedig ganddo ar waith Waldo. Ar hyn o bryd y mae wrthi’n llunio cofiant i Waldo yn y gyfres ‘Dawn Dweud’ (Gwasg Prifysgol Cymru), a hefyd yn paratoi’r golygiad beirniadol diffiniol o’i gerddi ar gyfer Gwasg Gomer.

Yr oedd Jason Walford Davies yn un o feirniaid cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005.

http://www.eisteddfod.org.uk/index.php?lang=CY;navId=138

Yn 2004 enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd â’i bryddest ‘Egni’, cerdd yn coffáu Streic y Glowyr 1984–5, ac y mae wrthi’n gweithio ar gasgliad o gerddi sydd i’w gyhoeddi’n fuan.

http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2004/maes/jason.shtml

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3520000/newsid_3529200/3529210.stm

http://www.eisteddfod.org.uk/index.php?lang=CY;navId=108

www.bangor.ac.uk/news/Jason.php.cy?

http://www.cynghanedd.com/annedd/content/view/47/41/

Y mae’n cyfrannu’n gyson i raglenni radio a theledu ar y celfyddydau, ac ef oedd cyflwynydd cyfres Ffilmiau’r Bont ar gyfer S4C, Cymru a’r Chwyldro Diwydiannol (2006).

Teaching and Supervision (cy)

Cyhoeddiadau (14)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (1)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau