Dr Lucy Bryning

Darlithydd mewn Gwyddorau Iechyd (Ol-radd Hyfforddedig)

Trosolwg

Ymunodd Lucy Bryning gyda CHEME fel Swyddog Ymchwil mewn Economeg Iechyd yn 2015. Mae ganddi BSc Dosbarth 1af (Anrh) a Meistr trwy Ymchwil, y ddau mewn Seicoleg. Ochr yn ochr â’i gwaith, mae Lucy yn ymgymryd â PhD mewn Economeg Iechyd yn archwilio economeg Ymyriadau sy’n seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar.

Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwerthuso rhaglenni iechyd cyhoeddus cymhleth, ymyriadau seicogymdeithasol, mentrau atal salwch/anhwylder a thechnolegau newydd ar gyfer gwella iechyd. Roedd Lucy yn gyd-awdur ar y gyfres o adroddiadau CHEME a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr achos economaidd dros fuddsoddi ar draws y cwrs bywyd, gan gynnwys Gweddnewid Bywydau Ifanc ar draws Cymru (2016), Byw yn Dda yn Hirach (2018) a Lles mewn Gwaith ( 2019).

Cyhoeddiadau (16)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (1)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau