Dr Mari Wiliam

Darlithydd mewn Hanes Modern

Trosolwg

Mi nes i benderfynu astudio Hanes yn y Brifysgol am y rheswm syml fy mod i'n mwynhau'r pwnc, a dwi dal yn ei fwynhau: ma' 'na wastad bethe newydd i'w dysgu, ac mae'r chwilfrydedd yma'n help i ddeall y byd heddiw.  Felly, dros 20 mlynedd ers i mi ddod i Brifysgol Bangor fel myfyriwr is-radd (wedyn MA a PhD) dwi dal yma, ac yn Ddarlithydd Hanes Modern a Hanes Cymru ers 2013.  

Dwi'n edrych yn bennaf ar hanes o ddiwedd oes Victoria hyd at ddechrau'r 21ain ganrif, ac mae gen i ddau brif ddiddordeb yn fy ymchwil ac addysgu.  Yn gyntaf, edrych ar hunaniaethau cenedlaethol, yn benodol yng Nghymru.  Yn ail, archwilio hanes bywyd-bob-dydd, sy'n rhoi golwg i ni ar sut mae pobl wedi byw yn y gorffennol.  Gyda'i gilydd mae hyn yn golygu fod llawer o fy modiwlau i'n eclectig o ran cynnwys, ac efo trafodaethau am bynciau sy'n ymestyn o genedlaetholdeb, y frenhiniaeth, datganoli a rhywedd i feysydd fel y diwydiant niwclear, astudiaethau tirlun a hanesion bwyd, anifeiliaid a thatŵs.  

Ymysg y modiwlau sydd gen i ar y llyfrau mae Cymru yn y Byd Modern; Ail-Danio'r Ddraig: Cymru wedi 1939; Britain in the Jazz Age; Nationalism in the UK a Raving in the 1990s.  Ar lefel MA dwi'n cydlynu modiwl hanes Cymru sef Global Wales.  Dwi'n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac wrth fy modd yn addysgu'n Gymraeg ac yn Saesneg.

Dwi ar hyn o bryd yn ysgrifennu monograff ar ogledd-ddwyrain Cymru rhwng 1950 a 1962, yn ymwneud efo projectau hanes llafar trwy Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (ISWE) ac yn cydweithio ar ymchwil i gymunedau niwclear yng ngogledd Cymru.  Dwi'n mwynhau sgwrsio am fy ymchwil efo cymdeithasau hanes lleol ac ysgolion. Dwi hefyd yn cyfrannu ar y teledu a radio i drafod pynciau fel y frenhiniaeth a chenedlaetholdeb.

Dwi'n ffodus i fod yn goruchwylio ymchwilwyr PhD talentog, sy'n edrych ar feysydd megis hanes mynydda a chenedlaetholdeb adain dde.  Rwyf hefyd yn cyd-oruchwylio nifer o ddoethuriaethau ISWE ar bynciau megis sgwatwyr & aneddiadau gwledig a merched mewn amaethyddiaeth.  

O ran fy ngwaith gweinyddol yn y Brifysgol, dwi'n Diwtor Derbyn Hanes ac yn gydlynydd Hanes/Treftadaeth ym Mangor gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

Diddordebau Ymchwil

  • Cenedlaetholdeb yr 20fed ganrif
  • Y Frenhiniaeth
  • Protest a'r iaith Gymraeg
  • Datganoli
  • Hanes tirlun a gwledigrwydd
  • Cymunedau niwclear
  • Gogledd-ddwyrain Cymru
  • Hanes anifeiliaid
  • Hanes bywyd bob dydd (e.e. tatŵs, bwyd, chwaraeon).

Personol

Dwi'n mwynhau garddio (yn arbennig blodau) ac wedi gwirioni ar anifeiliaid: mae gen i gŵn ac ieir.  Dwi hefyd yn ffan mawr o bêl droed.  Mae llawer o'r diddordebau yma'n ymddangos yn fy nysgu ac ymchwil yn ogystal!

Teaching and Supervision (cy)

BA

  • Cymru yn y Byd Modern / Wales in the Modern World 
  • Ail-Danio'r Ddraig/ Re-igniting the Dragon
  • Britain in the Jazz Age
  • Nationalism in the UK
  • Raving in the 1990s?  
  • Making History
  • Crefft yr Hanesydd

MA 

  • Global Wales
  • People, Power and Political Action
  • Documents and Sources Modern
  • Themes and Issues

Cyhoeddiadau (11)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (10)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau