Professor Nancy Edwards

Emeritus Professor

Contact info

Bywgraffiad

Cefais fy mhenodi’n Ddarlithydd mewn Archaeoleg Ganoloesol Gynnar ym Mangor yn 1979 a dod yn Athro Archaeoleg Ganoloesol yn 2008. Ymddeolais ym mis Rhagfyr 2020 ac rwyf bellach yn Athro Emeritws Archaeoleg Ganoloesol. Rwy'n parhau i oruchwylio rhai myfyrwyr ymchwil.

Rwyf yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr. Rwy'n Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd ac ym Mhrifysgol Durham.

Cwblheais BA mewn Archeoleg, Hanes Hynafol a'r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Lerpwl yn 1976. Yna symudais i Brifysgol Durham lle cefais PhD mewn Archeoleg. Roedd fy nhraethawd ymchwil yn archwilio cerflunwaith canoloesol cynnar yng Nghanolbarth Iwerddon.

 

Ymchwil

Mae fy ymchwil yn amlddisgyblaethol ac yn rhychwantu Archeoleg, Hanes a Hanes Celf. Mae gennyf ddiddordeb neilltuol  yn yr oesoedd canol cynnar yng Nghymru c.400–1100 OC. Mae gen i ddiddordeb parhaus hefyd yn Iwerddon a'r Alban ganoloesol gynnar yn ogystal ag agweddau ar hanes archeoleg.

Fy llyfr, Life in Early Medieval Wales (a ariannwyd gan Brif Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme), wedi ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 2023.

 

Mae llawer o’m hymchwil yn parhau i ganolbwyntio ar gerrig arysgrifedig a cherfluniau cerrig canoloesol cynnar yng Nghymru. Mae gen i ddiddordeb nid yn unig yn yr henebion eu hunain ond hefyd yn eu cyd-destunau yn y dirwedd a'r hyn y gallant ei ddweud wrthym am y gymdeithas ganoloesol gynnar, hunaniaeth, yr Eglwys, nawdd a chyfoeth. Rwyf wedi cyhoeddi dwy gyfrol o’r gyfres A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales, Volume II, South-West Wales (2007); Volume III, North Wales (2013).

Ar hyn o  bryd rwy’n gweithio, gyda Gary Robinson (Prifysgol Bangor) a Howard Williams (Prifysgol Caer), ar fywgraffiad o Golofn Eliseg o'r nawfed ganrif. Rwyf hefyd wedi datblygu diddordeb yng ngraffiti’r oesoedd canol cynnar fel rhan o’m hymchwil ar y casgliad o gerfluniaeth o Gapel Sant Padrig, ger Tyddewi.

Areas of Teaching & Supervision

 

  1. Cyhoeddwyd

    Edward Lhuyd – an archaeologist’s view

    Edwards, N., 1 Ion 2010, Yn: Welsh History Review. 25, 1, t. 20-50

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  2. Cyhoeddwyd

    Transforming Landscapes of Belief in the Early Medieval Insular World and Beyond: Converting the Isles II

    Edwards, N. (gol.), Flechner, R. (gol.) & Mhaonaigh, M. N. (gol.), 31 Hyd 2017, Brepols Publishers. (Cultural Encounters in Late Antiquity and the Middle Ages)

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfradolygiad gan gymheiriaid

  3. Cyhoeddwyd

    Life in Early Medieval Wales

    Edwards, N., 22 Awst 2023, Oxford: Oxford University Press. 511 t.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfradolygiad gan gymheiriaid

  4. Cyhoeddwyd

    Early Medieval Wales: material evidence and identity

    Edwards, N., 31 Rhag 2017, Yn: Studia Celtica. 51, t. 65-87

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  5. Cyhoeddwyd

    Edward Lhuyd and the origins of early medieval Celtic archaeology

    Edwards, N., Medi 2007, Yn: Antiquaries Journal. 87, t. 165-196

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  6. Cyhoeddwyd

    Raising the Dead. Early Aledieval,Yaine Stones in Northumbria

    Edwards, N., 1 Tach 2015, Yn: Medieval archaeology. 59, 1, t. 340-340

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynAdolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygladolygiad gan gymheiriaid

  7. Cyhoeddwyd

    Viking-age sculpture in north-west Wales: welath, power, patronage and the Christian landscape

    Edwards, N., 1 Ion 2011, Tome: Studies in Medieval Celtic history and Law in honour of Thomas Charles-Edwards. Edmonds, F. & Russell, P. (gol.). 2011 gol. Boydell, t. 73-87

    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennod

  8. Cyhoeddwyd

    Wales and the Britons 350-1064

    Edwards, N., 1 Rhag 2014, Yn: Welsh History Review. 27, 2, t. 368-370

    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

  9. Cyhoeddwyd

    The Early Medieval Sculpture of Wales: Text, Pattern and Image

    Edwards, N. M., 27 Ebr 2015, Cambridge University Press.

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

  10. Cyhoeddwyd

    The Archaeology of the Early Medieval Celtic Churches

    Edwards, N. (gol.), 1 Ion 2009, 2009 gol. Routledge. (Society for Medieval Archaeology Monotraphs; Cyfrol 29)

    Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr