Professor Nancy Edwards

Emeritus Professor

Contact info

Bywgraffiad

Cefais fy mhenodi’n Ddarlithydd mewn Archaeoleg Ganoloesol Gynnar ym Mangor yn 1979 a dod yn Athro Archaeoleg Ganoloesol yn 2008. Ymddeolais ym mis Rhagfyr 2020 ac rwyf bellach yn Athro Emeritws Archaeoleg Ganoloesol. Rwy'n parhau i oruchwylio rhai myfyrwyr ymchwil.

Rwyf yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr. Rwy'n Gadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar hyn o bryd ac yn Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Durham.

Cwblheais BA mewn Archeoleg, Hanes Hynafol a'r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Lerpwl yn 1976. Yna symudais i Brifysgol Durham lle cefais PhD mewn Archeoleg. Roedd fy nhraethawd ymchwil yn archwilio cerflunwaith canoloesol cynnar yng Nghanolbarth Iwerddon.

 

Ymchwil

Mae fy ymchwil yn amlddisgyblaethol ac yn rhychwantu Archeoleg, Hanes a Hanes Celf. Mae gennyf ddiddordeb neilltuol  yn yr oesoedd canol cynnar yng Nghymru c.400–1100 OC. Mae gen i ddiddordeb parhaus hefyd yn Iwerddon a'r Alban ganoloesol gynnar yn ogystal ag agweddau ar hanes archeoleg.

Mae llawer o’m hymchwil yn parhau i ganolbwyntio ar gerrig arysgrifedig a cherfluniau cerrig canoloesol cynnar yng Nghymru. Mae gen i ddiddordeb nid yn unig yn yr henebion eu hunain ond hefyd yn eu cyd-destunau yn y dirwedd a'r hyn y gallant ei ddweud wrthym am y gymdeithas ganoloesol gynnar, hunaniaeth, yr Eglwys, nawdd a chyfoeth. Rwyf wedi cyhoeddi dwy gyfrol o’r gyfres A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales, Volume II, South-West Wales (2007); Volume III, North Wales (2013). Mae fy mhroject ymchwil gyda Gary Robinson (Prifysgol Bangor) a Howard Williams (Prifysgol Caer) ar Golofn Eliseg o'r nawfed ganrif wedi arwain at ddiddordeb cynyddol mewn cofiannau henebion.

 

Ar hyn o bryd rwy'n cwblhau llyfr a ariennir gan Brif Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme, Life in Early Medieval Wales, sydd i'w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen.

Areas of Teaching & Supervision

 

  1. Early Medieval Inscribed Stones

    Edwards, N.

    1/09/0710/07/09

    Project: Ymchwil

  2. Early Medieval Inscribed Stones And Ston

    Edwards, N.

    1/10/0631/07/09

    Project: Ymchwil

  3. Esf - Phd 04/07 - Filmiau'R Bont

    Edwards, N.

    4/10/0431/10/07

    Project: Ymchwil

  4. Life in Early Medieval Wales

    Edwards, N.

    1/10/151/08/19

    Project: Ymchwil

  5. Project Eliseg (Prosiect Eliseg)

    Edwards, N.

    1/07/1031/10/10

    Project: Ymchwil

  6. Project Eliseg 2012

    Edwards, N.

    12/03/1230/03/13

    Project: Ymchwil

  7. University Of Wales Christian Monuments

    Edwards, N.

    1/09/9731/12/21

    Project: Ymchwil

  8. Viking Congress in Iceland

    Edwards, N.

    1/08/0930/09/09

    Project: Ymchwil