Professor Nancy Edwards
Emeritus Professor
Contact info
Bywgraffiad
Cefais fy mhenodi’n Ddarlithydd mewn Archaeoleg Ganoloesol Gynnar ym Mangor yn 1979 a dod yn Athro Archaeoleg Ganoloesol yn 2008. Ymddeolais ym mis Rhagfyr 2020 ac rwyf bellach yn Athro Emeritws Archaeoleg Ganoloesol. Rwy'n parhau i oruchwylio rhai myfyrwyr ymchwil.
Rwyf yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr. Rwy'n Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd ac ym Mhrifysgol Durham.
Cwblheais BA mewn Archeoleg, Hanes Hynafol a'r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Lerpwl yn 1976. Yna symudais i Brifysgol Durham lle cefais PhD mewn Archeoleg. Roedd fy nhraethawd ymchwil yn archwilio cerflunwaith canoloesol cynnar yng Nghanolbarth Iwerddon.
Ymchwil
Mae fy ymchwil yn amlddisgyblaethol ac yn rhychwantu Archeoleg, Hanes a Hanes Celf. Mae gennyf ddiddordeb neilltuol yn yr oesoedd canol cynnar yng Nghymru c.400–1100 OC. Mae gen i ddiddordeb parhaus hefyd yn Iwerddon a'r Alban ganoloesol gynnar yn ogystal ag agweddau ar hanes archeoleg.
Fy llyfr, Life in Early Medieval Wales (a ariannwyd gan Brif Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme), wedi ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 2023.
Mae llawer o’m hymchwil yn parhau i ganolbwyntio ar gerrig arysgrifedig a cherfluniau cerrig canoloesol cynnar yng Nghymru. Mae gen i ddiddordeb nid yn unig yn yr henebion eu hunain ond hefyd yn eu cyd-destunau yn y dirwedd a'r hyn y gallant ei ddweud wrthym am y gymdeithas ganoloesol gynnar, hunaniaeth, yr Eglwys, nawdd a chyfoeth. Rwyf wedi cyhoeddi dwy gyfrol o’r gyfres A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales, Volume II, South-West Wales (2007); Volume III, North Wales (2013).
Ar hyn o bryd rwy’n gweithio, gyda Gary Robinson (Prifysgol Bangor) a Howard Williams (Prifysgol Caer), ar fywgraffiad o Golofn Eliseg o'r nawfed ganrif. Rwyf hefyd wedi datblygu diddordeb yng ngraffiti’r oesoedd canol cynnar fel rhan o’m hymchwil ar y casgliad o gerfluniaeth o Gapel Sant Padrig, ger Tyddewi.
Areas of Teaching & Supervision
- Cyhoeddwyd
Christianising the landscape in early medieval Wales: the island of Anglesey
Edwards, N., 3 Ion 2017, Making Christian Landscapes : Conversion and Consolidation in Early Medieval Europe. Carragáin, T. O. & Turner, S. (gol.). Cork University Press, t. 177-203Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Early Medieval Art and Archaeology in the Northern World. Studies in Honour of James Graham-Campbell
Edwards, N., 1 Tach 2014, Yn: Medieval archaeology. 58, 1Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Early Medieval Settlement and Field Systems at Rhuddgaer, Anglesey
Hopewell, D. & Edwards, N., Rhag 2017, Yn: Archaeologia Cambrensis. 166Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Early Medieval Wales: material evidence and identity
Edwards, N., 31 Rhag 2017, Yn: Studia Celtica. 51, t. 65-87Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Early medieval Wales: a framework for archaeological research.
Edwards, N. M., Edwards, N., Lane, A., Bapty, I. & Redknap, M., 1 Ion 2005, Yn: Archaeology in Wales. 45, t. 33-46Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Early medieval inscribed stones and stone sculpture in Wales: context and function.
Edwards, N. M. & Edwards, N., 1 Ion 2001, Yn: Medieval archaeology. 45, t. 15-39Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Edward Lhuyd and the origins of early medieval Celtic archaeology
Edwards, N., Medi 2007, Yn: Antiquaries Journal. 87, t. 165-196Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Edward Lhuyd – an archaeologist’s view
Edwards, N., 1 Ion 2010, Yn: Welsh History Review. 25, 1, t. 20-50Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
From antiquarians to archaeologists in nineteenth-century Wales: The question of prehistory
Edwards, N. M., Gould, J., Evans, N. (gol.) & Pryce, H. (gol.), 1 Rhag 2013, Writing a Small Nation's Past: Wales in Comparative Perspective: 1850–1950. 2013 gol. Ashgate, t. 143-164Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
- Cyhoeddwyd
Life in Early Medieval Wales
Edwards, N., 22 Awst 2023, Oxford: Oxford University Press. 511 t.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid