Professor Nancy Edwards
Emeritus Professor
Contact info
Bywgraffiad
Cefais fy mhenodi’n Ddarlithydd mewn Archaeoleg Ganoloesol Gynnar ym Mangor yn 1979 a dod yn Athro Archaeoleg Ganoloesol yn 2008. Ymddeolais ym mis Rhagfyr 2020 ac rwyf bellach yn Athro Emeritws Archaeoleg Ganoloesol. Rwy'n parhau i oruchwylio rhai myfyrwyr ymchwil.
Rwyf yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr. Rwy'n Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd ac ym Mhrifysgol Durham.
Cwblheais BA mewn Archeoleg, Hanes Hynafol a'r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Lerpwl yn 1976. Yna symudais i Brifysgol Durham lle cefais PhD mewn Archeoleg. Roedd fy nhraethawd ymchwil yn archwilio cerflunwaith canoloesol cynnar yng Nghanolbarth Iwerddon.
Ymchwil
Mae fy ymchwil yn amlddisgyblaethol ac yn rhychwantu Archeoleg, Hanes a Hanes Celf. Mae gennyf ddiddordeb neilltuol yn yr oesoedd canol cynnar yng Nghymru c.400–1100 OC. Mae gen i ddiddordeb parhaus hefyd yn Iwerddon a'r Alban ganoloesol gynnar yn ogystal ag agweddau ar hanes archeoleg.
Fy llyfr, Life in Early Medieval Wales (a ariannwyd gan Brif Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme), wedi ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 2023.
Mae llawer o’m hymchwil yn parhau i ganolbwyntio ar gerrig arysgrifedig a cherfluniau cerrig canoloesol cynnar yng Nghymru. Mae gen i ddiddordeb nid yn unig yn yr henebion eu hunain ond hefyd yn eu cyd-destunau yn y dirwedd a'r hyn y gallant ei ddweud wrthym am y gymdeithas ganoloesol gynnar, hunaniaeth, yr Eglwys, nawdd a chyfoeth. Rwyf wedi cyhoeddi dwy gyfrol o’r gyfres A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales, Volume II, South-West Wales (2007); Volume III, North Wales (2013).
Ar hyn o bryd rwy’n gweithio, gyda Gary Robinson (Prifysgol Bangor) a Howard Williams (Prifysgol Caer), ar fywgraffiad o Golofn Eliseg o'r nawfed ganrif. Rwyf hefyd wedi datblygu diddordeb yng ngraffiti’r oesoedd canol cynnar fel rhan o’m hymchwil ar y casgliad o gerfluniaeth o Gapel Sant Padrig, ger Tyddewi.
Areas of Teaching & Supervision
- Cyhoeddwyd
Monuments in a landscape, the early medieval sculpture of St David’s.
Edwards, N. M., Edwards, N., Hamerow, H. (gol.) & MacGregor, A. (gol.), 1 Ion 2001, Image and Power in the Archaeology of Early Medieval Britain: Essays in Honour of Rosemary Camp.. 2001 gol. Oxbow Books, t. 53-77Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
- Cyhoeddwyd
New discoveries of early medieval carved stones in Wales
Edwards, N., Meh 2016, Yn: Archaeologia Cambrensis. 165, t. 187-199Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Pattern and Purpose in Insular Art. Proceedings of the 4th International Conference on Insular art.
Edwards, N. M. (gol.), Redknap, M. (gol.), Edwards, N. (gol.), Youngs, S. (gol.), Lane, A. (gol.) & Knight, J. (gol.), 1 Ion 2002, 2002 gol. Oxbow Books.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
- Cyhoeddwyd
Protecting carved stones in Scotland and Wales
Edwards, N. M. & Hall, M. A., 1 Ion 2006, Yn: Church Archaeology. 7-9, t. 127-129Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Raising the Dead. Early Aledieval,Yaine Stones in Northumbria
Edwards, N., 1 Tach 2015, Yn: Medieval archaeology. 59, 1, t. 340-340Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Rethinking the pillar of Eliseg
Edwards, N., 22 Mai 2009, Yn: Antiquaries Journal. 89, t. 143-177Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
St Cyngar’s Church, Hope.
Edwards, N. M., Jones, N., Silvester, B. & Edwards, N., 1 Ion 2001, Yn: Archaeology in Wales. 41, t. 42-50Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
The Archaeology of the Early Medieval Celtic Churches
Edwards, N. (gol.), 1 Ion 2009, 2009 gol. Routledge. (Society for Medieval Archaeology Monotraphs; Cyfrol 29)Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
- Cyhoeddwyd
The Early Medieval Sculpture of Wales: Text, Pattern and Image
Edwards, N. M., 27 Ebr 2015, Cambridge University Press.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
- Cyhoeddwyd
The Pillar of Eliseg, Llantysilio. Incomplete inscribed cross and cairn.
Edwards, N. M., Edwards, N., Robinson, G., Williams, H. & Evans, D. M., 1 Ion 2011, Yn: Archaeology in Wales. 50, t. 57-59Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid