Miss Nia Jones

Trosolwg
Mae Nia yn ymchwilydd PhD a ariennir gan NERC trwy Raglen Hyfforddiant Doethurol Envision. Mae Nia yn ganolbwyntio ar y mecanweithiau sy'n llywodraethu trafnidiaeth microplastig yn ein systemau arfordirol a'n moroedd silff. Trwy integreiddio modelu hydrodynamig, "particle tracking", a mesuriadau maes mae hi'n gobeithio amcangyfrif cyllidebau microplastig lleol ac ymchwilio i ffynonellau a sinciau rhanbarthol i ddeall ein problem llygredd plastig yn well.
Diddordebau Ymchwil
Teitl prosiect ymchwil PhD Nia yw "Gwasgariad Microplastig yn yr Amgylchedd Morol". Nod y prosiect yw ymchwilio mewn i amrywioldeb microplastig dros le ac amser a'i gludiant o aberoedd i foroedd silffoedd, gan ganolbwyntio ar Aber Conwy, Gogledd Cymru a'r Môr Iwerddon ehangach.
Mae'r prosiect yn cynnwys mewnbwn sylweddol o fesuriadau maes a modelau rhifiadol i gyflawni ei nodau a'i amcanion a helpu i ddarganfod lefelau halogiad microplastig ar raddfa ranbarthol.
Manylion Cyswllt
E-bost: niajones@bangor.ac.uk
Trydar: @_niahjones