Mr Peredur Williams

Darlithydd mewn Addysg Cerddoriaeth

Contact info

Proffil

Mae Peredur Williams yn ddarlithydd Dylunio Cynnyrch. Graddiodd gyda BSc (Anrh) ym 1999 o Brifysgol Sheffield Hallam gan gychwyn ei swydd addysgu gyntaf yn Ysgol uwchradd Cymer Rhondda, De Cymru: cyn symud i Ysgol Brynrefail, Gwynedd yn 2001.

Yn 2017 cyflawnodd Peredur MA:Design o Brifysgol DeMontfort yn edrych ar greadigrwydd o fewn addysg

Bu’n rhan o Gymunedau Dysgu Proffesiynol ar gyfer datblygu a rhannu arferion da yn drawsgwricwlaidd o fewn addysg yng Ngwynedd.

Ers dros 10 mlynedd mae Peredur wedi bod yn arholwr Dylunio a Thechnoleg (Deunyddiau Gwrthiannol) ar lefel TGAU i CBAC, cyn hynny roedd yn safonwr ar gyfer Dylunio Cynnyrch Lefel A ac AS i CBAC.

Derbyniodd Peredur gymrawd gan y Royal Society of Arts (RSA) ym 2015.

Ymunodd â’r adran Ddylunio ym Mangor ym 2013 ble mae’n darlithio ar agweddau o ddylunio, cyfathrebu gweledol, arferion CAD a CAM, astudiaethau proffesiynol; mae’n arwain ar brojectau dylunio a gweithgynhyrchu. Mae hefyd yn diwtor ymwled ar gyfer profiadau yn y gweithle. Ym 2015 sefydlodd Siarad Dylunio, cynhadledd Dylunio flynyddol sy’n croesawu cyn fyfyrwyr a siaradwyr gwadd.

Dysgu

BSc Dylunio Cynnyrch,

Arall

Cysylltwch gyda Peredur os ydych yn

  • fyfyriwr sydd â diddordeb astudio Dylunio Cynnyrch
  • gwmni dylunio neu gweithgynhyrchu sydd a diddordeb mewn cynnig cyfleoedd yn y gweithle i’n myfyrwyr.

https://www.instagram.com/productdesignbangor/ 
http://uk.linkedin.com/pub/peredur-williams/94/791/34a

Manylion Cyswllt

Addysg / cymwysterau academaidd

  • 2017 - MA , Dylunio - Creadigrwydd o fewn addysg
Gweld graff cysylltiadau