Professor Rhiannon Tudor Edwards

Athro

Dolenni cyswllt

Contact info

Cyfarwyddwr sefydlu ymchwil economeg iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor.

Mewn dadansoddiad byd-eang o lyfryddiaeth mewn economeg iechyd (1975-2022), rhestrwyd Rhiannon ymhlith yr awduron pwysicaf ym maes economeg iechyd. Roedd hi ymhlith y pum awdur mwyaf cydweithredol, gyda Phrifysgol Bangor yn un o’r 10 sefydliad mwyaf cydweithredol ym maes economeg iechyd. Gweler: Barbu, L. Global trends in the scientific research of the health economics: a bibliometric analysis from 1975 to 2022. Health Econ Rev 13, 31 (2023).

Ffôn: +44 (0) 1248 383 712

E-bost: r.t.edwards@bangor.ac.uk

Cyfeiriad: Ystafell 103, Ardudwy, Safle Normal, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2PZ

X (Trydar): @ProfRTEdwards

 

Trosolwg

Mae Rhiannon Tudor Edwards BSc. Econ, M.A., D.Phil., Anrh. MFPH yn Athro Economeg Iechyd. Y mae’n gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor, ac yn arwain y Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol (PHERG) o fewn CHEME. Mae Rhiannon yn aelod Cyngor ac yn ymddiriedolwraig Prifysgol Bangor. Y mae hefyd yn Athro Gwadd yn Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Prifysgol Lerpwl. Ar lefel genedlaethol, mae’n gyd-gyfarwyddwr Economeg Iechyd a Gofal Cymru (HCEC) a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy Lywodraeth Cymru, yn Uwch Arweinydd Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Diddordebau ac arbenigedd ymchwil yw dylunio, cynnal ac adrodd ar werthusiadau economaidd o iechyd cyhoeddus ac ymyriadau ataliol, o fewn a thu hwnt i'r sector iechyd, gan eu bod yn aml yn aml sectoraidd. Mae Rhiannon wedi cyd-ysgrifennu dros 400 o erthyglau a adolygwyd gan gyfoedion ac mae'n gyd-olygydd gwerslyfr cwrs sefydledig "Handbooks in Health Economics – Applied Health Economics for Public Health Practice and Research” wedi’i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen. Ar hyn o bryd, mae’n arwain Prifysgol Bangor fel partner yn yr ymchwil Invest4Health (I4H) a ariennir drwy Horizon Ewrop.

Mae Rhiannon yn gyn-fyfyriwr Harkness y Gymanwlad, a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Calgary a Phrifysgol Efrog, ac mae wedi cymhwyso fel hyfforddwr gweithredol y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM, Lefel 7).

Manylion Cyswllt

Cyfarwyddwr sefydlu ymchwil economeg iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor.

Mewn dadansoddiad byd-eang o lyfryddiaeth mewn economeg iechyd (1975-2022), rhestrwyd Rhiannon ymhlith yr awduron pwysicaf ym maes economeg iechyd. Roedd hi ymhlith y pum awdur mwyaf cydweithredol, gyda Phrifysgol Bangor yn un o’r 10 sefydliad mwyaf cydweithredol ym maes economeg iechyd. Gweler: Barbu, L. Global trends in the scientific research of the health economics: a bibliometric analysis from 1975 to 2022. Health Econ Rev 13, 31 (2023).

Ffôn: +44 (0) 1248 383 712

E-bost: r.t.edwards@bangor.ac.uk

Cyfeiriad: Ystafell 103, Ardudwy, Safle Normal, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2PZ

X (Trydar): @ProfRTEdwards

 

Diddordebau Ymchwil

Cyhoeddiadau (319)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (8)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau