Dr Rhys Ap Gwilym

Uwch Ddarlithydd

Trosolwg

Mae Dr Rhys ap Gwilym yn Uwch Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor. Hyfforddodd fel macroeconomydd ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ennill ei PhD ar "Ymhlygiadau Macroeconomaidd Fodelau Cyllid Ymddygiadol" yn 2009. Mae ei ymchwil academaidd wedi cynnwys datblygu modelau sy'n cyflwyno ffactorau ymddygiadol yn ddadansoddiad macro-economaidd (gan gynnwys modelau DSGE) a dadansoddiad o offerynnau ariannol mewn modelau cydbwysedd cyffredinol. Mae wedi cyhoeddi mewn cylchgronau gan gynnwys Journal of Banking and Finance, Economic Letters a'r Southern Economic Journal.

Yn fwy diweddar, mae ei ddiddordebau ymchwil wedi esblygu i gynnwys economeg gofodol a chyllid cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar brosiect sy'n edrych ar sut mae gwahaniaethau daearyddol mewn mynediad at gyllid yn dylanwadu ar wahaniaethau economaidd rhanbarthol; yn enwedig y cysylltiadau rhwng ariannoliad tir a ddatblygiad economaidd rhanbarthol.

Mae gan Rhys ddiddordeb cryf mewn polisi datblygu rhanbarthol a'i rôl yng Nghymru yn arbennig. Mae wedi bod yn bryf ymchwilydd ar ddau brosiect ymchwil ar ran Lywodraeth Cymru yn ymwneud â treth gwerth tir a threth ymwelwyr. Mae'n aelod o Grŵp Polisi Economaidd y Sefydliad Materion Cymreig, lle bu'n ymwneud â datblygu papurau trafod ar economi Cymru. Yn ddiweddar, cyfrannodd at y "bwrdd crwn arbenigol ar sylfaen dreth Cymru a'r goblygiadau ar gyfer polisi cyhoeddus".

Teaching and Supervision (cy)

Mae Rhys yn dysgu Economeg i’r flwyddyn gyntaf; ac Economeg Gyllidol i’r drydedd flwyddyn. Yn y gorffennol mae e wedi dysgu cyrsiau mewn Macroeconomeg, Meisroeconomeg a Threfn Diwydiant; yn ogystal â chyfrannu pynciau megis economeg ariannol, Brexit, cyllid cyhoeddus ac economi rhanbarthol i gyrsiau eraill.

Manylion Cyswllt

Hen Goleg 1.16

r.a.gwilym@bangor.ac.uk

01248 38 8814

Cyhoeddiadau (9)

Gweld y cyfan

Sylw ar y cyfryngau (2)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau