Dr Sarah Cooper

Darlithydd

Diddordebau Ymchwil

Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil mewn seineg y Gymraeg, dwyieithrwydd a thechnolegau iaith ar gyfer ieithoedd llai eu hadnoddau. Ar hyn o bryd, rwyf yn gweithio ar broject sydd yn ffocysu ar sut mae oedolion yn dysgu seiniau’r Gymraeg. Rwyf gen i ddiddordeb mewn pa ffactorau sydd yn effeithio ar sut mae dysgwyr Cymraeg yn cynrychioli seiniau (e.e.. oedran y dysgwr, faint o amlygiad mae’r dysgwr wedi cael tu allan i’r dosbarth, ers faint mae’r dysgwr wedi bod yn dysgu Cymraeg a’r ysgogiad at ddysgu Cymraeg), a sut rydym yn gallu helpu dysgwyr goresgyn anawsterau dysgu i’w helpu nhw ddefnyddio Cymraeg mwy yn eu cymunedau. 

Rwyf dal i weithio yn agos efo’r Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr. Dilynwch y cyswllt yma i ddarllen mwy a lawrlwytho’r Corpws Lleferydd Paldaruo.

Trosolwg

Mi wnes i ymuno â’r Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg fel darlithydd llawn amser ym mis Medi 2015. Mi ddechreuais PhD mewn Ieithyddiaeth ym Mangor yn 2010, gyda’r Athro Ineke Mennen a’r Athro Margaret Deuchar fel goruchwylwyr. Ar ôl gorffen fy PhD yn 2014/15, mi weithiais fel Swyddog Ymchwil ar y Project GALLU yn yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr. Roedd Project GALLU yn cael ei chyd-ariannu gan Lywodraeth Cymru a S4C i ddatblygu gwaith adnabod lleferydd ar gyfer y Gymraeg. 

Teaching and Supervision (cy)

Rwyf yn dysgu nifer o fodiwlau yn yr Ysgol ar seineg a dwyieithrwydd. Mae’r pynciau rwyf yn eu dysgu yn cynnwys cyflwyniad i seineg, seineg ganolradd, agweddau o ddwyieithrwydd, a seineg a ffonoleg caffael ail iaith (am wybodaeth bellach gweler yr amserlen bresennol). 

Cyhoeddiadau (26)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (9)

Gweld y cyfan

Anrhydeddau (1)

Gweld y cyfan

Sylw ar y cyfryngau (1)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau