Dr Sarah Pogoda
Darlithydd mewn Astudiaethau Almaenaidd
Contact info
Dysgu
Yn Freie Universität Berlin a'r Humboldt Universität zu Berlin, bûm yn dysgu nifer o fodiwlau ar Astudiaethau Gwleidyddol a Llenyddiaeth Almaeneg yr 20fed ganrif. Fel DAAD-Lektor ym Mhrifysgol Sheffield (2012-2016), bûm yn dysgu modiwlau ar ddiwylliant a chyfryngau Almaeneg cyfoes, celfyddyd, ffilm a pherfformiad yn yr Almaen ar ôl y wal, yn ogystal â modiwlau ar lenyddiaeth gyfoes yr Almaen. Ochr yn ochr â'r dysgu dan arweiniad ymchwil, bûm yn dysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel (ab initio hyd at allu sydd bron cystal â brodorol) ers 2011. Ym Mhrifysgol Bangor, rwy'n dal i ddysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel, yn ogystal â dysgu israddedig ac ôl-radd yn fy maes arbenigedd ymchwil, gan gynnwys e.e. y modiwlau "Culture in Context" (LXE 1600); "Divided Germany" (LXG 2013), "Performing Germany" (LXG 3036), "German Avant-Garde" (LXM 4037) a "Critical Theory" (LXM 4001).
Wrth ddysgu, mae'n well gennyf integreiddio arferion artistig, megis Digwyddiadau ac ymarferion Ysgrifennu Creadigol. Credaf mai dysgu trwy ymarfer yw'r ffordd orau o ddysgu, ond yn bennaf oll, rwyf am ddangos i'r myfyrwyr fod y chwyldro'n dechrau gyda ni ein hunain a'r tu mewn inni ein hunain. Y chwyldro hwn ar yr hunan yn fy marn i yw profiad allweddol bywyd, a bywyd prifysgol yn arbennig. Cefais fy enwebu ar gyfer Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig.
Ymchwil
Mae fy mhrosiect ymchwil cyfredol yn ystyried syniad y ddelwedd symudol yng ngwaith Christoph Schlingensief a sut y caiff ei drawsnewid trwy weithio mewn genres heblaw ffilm, megis cynyrchiadau theatr, dramâu radio a chelfyddyd weithredol. Yn hyn o beth, mae gennyf ddiddordeb arbennig ym mhosibiliadau gwleidyddol celfyddyd a sut mae artist cyfoes yn ymyrryd yn y maes cyhoeddus. Yma, yr wyf yn archwilio strategaethau trawsnewidiol celfyddyd Avant-garde. O ran y cwestiynau hyn, trefnais y gynhadledd ryngwladol"Christoph Schlingensief a'r Avant-Garde"yn y Zie Bielefeld fis Chwefror 2017.
Hefyd, yr wyf yn awyddus i archwilio dulliau ymchwil fel celfyddyd a sut y gall ymchwil ac academi ail-lunio'r cyswllt â'r cyhoedd trwy ymchwil artistig. Yn y cyd-destun hwnnw y dechreuais y project arbrofol "Bellotograph".
Mae diddordebau ymchwil lu i'w cael yn y cysylltiadau sydd â llenyddiaeth a phensaernïaeth ac, yn fwy cyffredinol, yn hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yr Almaen ar ôl 1945, gan gynnwys yr hen GDR. Yn fy nhraethawd doethur, rwy'n edrych ar drosiadau adeiladau ac anheddau yn llenyddiaeth a diwylliant yr Almaen ar ôl y rhyfel a heddiw. Yn ogystal, mae gennyf ddiddordeb yn llenyddiaeth gyfoes yr Almaen yn gyffredinol.)
- Cyhoeddwyd
Game developers' approaches to comunicating climate change
Walton, S. P., Williams, C., Pogoda, S., Reynolds, D., Gerson, S. A., Foltz, A. & Begum, T., 20 Meh 2019, Yn: Frontiers in Communication. 4, 14 t., 28.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Branding the new Germany: The Brandenburg Gate and a new kind of German historical Amnesia
Pogoda, S. & Traxler, R., Tach 2017, Cultural Topographies of the New Berlin. Bauer, K. & Hosek, J. (gol.). Berghahn BooksAllbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Künstlerische Avantgardeforschung und Institutionskritik in Christoph Schlingensiefs Müllfestspiele (1996), Seven X (1999) und Erster Attaistischer Kongress (2002)
Pogoda, S., 25 Maw 2019, Christoph Schlingensief und die Avantgarde. Knapp, L., Lindholm, S. & Pogoda, S. (gol.). Fink VerlagAllbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
- Cyhoeddwyd
Erzählerische Kontingenzverwaltung bei Gregor Hens
Pogoda, S., 2008, Literatur der Jahrtausendwende: Themen, Schreibverfahren und Buchmarkt um 2000. Zemanek, E. & Krones, S. (gol.). Bielefeld: Transcript Verlag, t. 225-234 9 t.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Demiurgen in der Krise: Architektenfiguren in der Literatur nach 1945
Pogoda, S., 1 Medi 2013, Berlin: Ripperger & Kremers . 352 t.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Golchi+
Pogoda, S., Samina Ali, Lisa Hudson, Lindsey Colbourne & Wanda Zyborska, 9 Tach 2021Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Cynyrch Digidol neu Gweledol
- Cyhoeddwyd
Roland Innerhofer: Architektur aus Sprache. Korrespondenzen zwischen Literatur und Baukunst 1890-1930
Pogoda, S., 1 Mai 2023, Yn: Musil-Forum. Studien zur Literatur der klassischen Moderne. 37, t. 391-395Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
The Redundancy: Ein Produktionsbericht
Pogoda, S., Ion 2021, Klassengesellschaft reloaded und das Ende der menschlichen Gattung.: Fragen an Heiner Müller. Strehlow, F. & Ette, W. (gol.). Theater der Zeit, t. 139-169 30 t. (Recherchen; Rhif 154).Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg
Vor- und Nachspiel: Ästhetiken gegen den Faschismus. Ein Vergleich zwischen dem Hässlichen Christoph Schlingensiefs und dem Zentrum für Politische Schönheit
Pogoda, S., 18 Meh 2023, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Kunstszene gegen rechte Szene: Cultural Responses to the Far-Right in Contemporary Germany. Brill Academic PublishersAllbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Das Mehr der Sprache ver-stehen. Der experimentelle Hypertext Verifiktion.
Pogoda, S., 13 Gorff 2023, Yn: Polyphonie Mehrsprachigkeit_Kreativität_Schreiben.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid