Dr Sarah Pogoda
Darlithydd mewn Astudiaethau Almaenaidd

Contact info
Dysgu
Yn Freie Universität Berlin a'r Humboldt Universität zu Berlin, bûm yn dysgu nifer o fodiwlau ar Astudiaethau Gwleidyddol a Llenyddiaeth Almaeneg yr 20fed ganrif. Fel DAAD-Lektor ym Mhrifysgol Sheffield (2012-2016), bûm yn dysgu modiwlau ar ddiwylliant a chyfryngau Almaeneg cyfoes, celfyddyd, ffilm a pherfformiad yn yr Almaen ar ôl y wal, yn ogystal â modiwlau ar lenyddiaeth gyfoes yr Almaen. Ochr yn ochr â'r dysgu dan arweiniad ymchwil, bûm yn dysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel (ab initio hyd at allu sydd bron cystal â brodorol) ers 2011. Ym Mhrifysgol Bangor, rwy'n dal i ddysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel, yn ogystal â dysgu israddedig ac ôl-radd yn fy maes arbenigedd ymchwil, gan gynnwys e.e. y modiwlau "Culture in Context" (LXE 1600); "Divided Germany" (LXG 2013), "Performing Germany" (LXG 3036), "German Avant-Garde" (LXM 4037) a "Critical Theory" (LXM 4001).
Wrth ddysgu, mae'n well gennyf integreiddio arferion artistig, megis Digwyddiadau ac ymarferion Ysgrifennu Creadigol. Credaf mai dysgu trwy ymarfer yw'r ffordd orau o ddysgu, ond yn bennaf oll, rwyf am ddangos i'r myfyrwyr fod y chwyldro'n dechrau gyda ni ein hunain a'r tu mewn inni ein hunain. Y chwyldro hwn ar yr hunan yn fy marn i yw profiad allweddol bywyd, a bywyd prifysgol yn arbennig. Cefais fy enwebu ar gyfer Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig.
Ymchwil
Mae fy mhrosiect ymchwil cyfredol yn ystyried syniad y ddelwedd symudol yng ngwaith Christoph Schlingensief a sut y caiff ei drawsnewid trwy weithio mewn genres heblaw ffilm, megis cynyrchiadau theatr, dramâu radio a chelfyddyd weithredol. Yn hyn o beth, mae gennyf ddiddordeb arbennig ym mhosibiliadau gwleidyddol celfyddyd a sut mae artist cyfoes yn ymyrryd yn y maes cyhoeddus. Yma, yr wyf yn archwilio strategaethau trawsnewidiol celfyddyd Avant-garde. O ran y cwestiynau hyn, trefnais y gynhadledd ryngwladol"Christoph Schlingensief a'r Avant-Garde"yn y Zie Bielefeld fis Chwefror 2017.
Hefyd, yr wyf yn awyddus i archwilio dulliau ymchwil fel celfyddyd a sut y gall ymchwil ac academi ail-lunio'r cyswllt â'r cyhoedd trwy ymchwil artistig. Yn y cyd-destun hwnnw y dechreuais y project arbrofol "Bellotograph".
Mae diddordebau ymchwil lu i'w cael yn y cysylltiadau sydd â llenyddiaeth a phensaernïaeth ac, yn fwy cyffredinol, yn hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yr Almaen ar ôl 1945, gan gynnwys yr hen GDR. Yn fy nhraethawd doethur, rwy'n edrych ar drosiadau adeiladau ac anheddau yn llenyddiaeth a diwylliant yr Almaen ar ôl y rhyfel a heddiw. Yn ogystal, mae gennyf ddiddordeb yn llenyddiaeth gyfoes yr Almaen yn gyffredinol.)
- Erthygl › Ymchwil
- Cyhoeddwyd
Germany is not Texas. Finding reunified Germany in the Rural: Christoph Schlingensief’s The German Chain Saw Massacre
Pogoda, S., 4 Mai 2020, Cine-Excess, 4.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigol › Erthygl
- Llyfr › Ymchwil › Adolygwyd gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Demiurgen in der Krise: Architektenfiguren in der Literatur nach 1945
Pogoda, S., 1 Medi 2013, Berlin: Ripperger & Kremers . 352 t.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
- Cynyrch Digidol neu Gweledol › Ymchwil
- Cyhoeddwyd
Golchi+
Pogoda, S. (Arall), Samina Ali, Lisa Hudson, Lindsey Colbourne & Wanda Zyborska, 9 Tach 2021Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Cynyrch Digidol neu Gweledol
- Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe › Ymchwil
- Cyhoeddwyd
Deutsch Walisische Freundschaft: Neue Walisische Kunst
Pogoda, S., 15 Ebr 2020Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe
- Cyhoeddwyd
Re-Inventing the Live Event - Blog
Pogoda, S. (Arall), 30 Meh 2022Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe
-
The Bellotograph Project
Pogoda, S., 2015Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe
- Arteffact › Ymchwil
- Cyhoeddwyd
Mappening I - Tomen Gachu: Map o Gymru
Pogoda, S. (Arall), 9 Meh 2022Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Arteffact
- Arddangosfa › Ymchwil
- Cyhoeddwyd
Alexander Kluge - Lighthouses into Futurity: Alexander Kluge – Goleudai i Ddyfodiant
Pogoda, S. (Arall), 29 Awst 2018Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Arddangosfa
- Perfformiad › Ymchwil
- Cyhoeddwyd
Adornos Nos. Grazing Graz. 18 Happenings in 6 Parts
Pogoda, S. (Arall), 2 Meh 2023Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Perfformiad
-
- Cyhoeddwyd
Hirbarhad II: Yn Oesedd Oes
Pogoda, S. (Arall), 16 Ebr 2022Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Perfformiad
- Cyhoeddwyd
Sentencing and Disembowelment of Surrealism by NWK
Pogoda, S. (Arall), 23 Awst 2020Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Perfformiad
- Cyhoeddwyd
The Redundancy: A site specific, multimedia, non-participatory performance
Pogoda, S. (Arall), 2 Meh 2019Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Perfformiad
- Cyhoeddwyd
- Erthygl adolygu › Ymchwil › Adolygwyd gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Sarah Ralfs: Theatralität der Existenz. Ethik und Ästhetik bei Christoph Schlingensief
Pogoda, S., 1 Ebr 2023, Yn: [rezens.tfm]. 2023, 1Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl adolygu › adolygiad gan gymheiriaid