Dr Sarah Pogoda
Darlithydd mewn Astudiaethau Almaenaidd

Contact info
Dysgu
Yn Freie Universität Berlin a'r Humboldt Universität zu Berlin, bûm yn dysgu nifer o fodiwlau ar Astudiaethau Gwleidyddol a Llenyddiaeth Almaeneg yr 20fed ganrif. Fel DAAD-Lektor ym Mhrifysgol Sheffield (2012-2016), bûm yn dysgu modiwlau ar ddiwylliant a chyfryngau Almaeneg cyfoes, celfyddyd, ffilm a pherfformiad yn yr Almaen ar ôl y wal, yn ogystal â modiwlau ar lenyddiaeth gyfoes yr Almaen. Ochr yn ochr â'r dysgu dan arweiniad ymchwil, bûm yn dysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel (ab initio hyd at allu sydd bron cystal â brodorol) ers 2011. Ym Mhrifysgol Bangor, rwy'n dal i ddysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel, yn ogystal â dysgu israddedig ac ôl-radd yn fy maes arbenigedd ymchwil, gan gynnwys e.e. y modiwlau "Culture in Context" (LXE 1600); "Divided Germany" (LXG 2013), "Performing Germany" (LXG 3036), "German Avant-Garde" (LXM 4037) a "Critical Theory" (LXM 4001).
Wrth ddysgu, mae'n well gennyf integreiddio arferion artistig, megis Digwyddiadau ac ymarferion Ysgrifennu Creadigol. Credaf mai dysgu trwy ymarfer yw'r ffordd orau o ddysgu, ond yn bennaf oll, rwyf am ddangos i'r myfyrwyr fod y chwyldro'n dechrau gyda ni ein hunain a'r tu mewn inni ein hunain. Y chwyldro hwn ar yr hunan yn fy marn i yw profiad allweddol bywyd, a bywyd prifysgol yn arbennig. Cefais fy enwebu ar gyfer Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig.
Ymchwil
Mae fy mhrosiect ymchwil cyfredol yn ystyried syniad y ddelwedd symudol yng ngwaith Christoph Schlingensief a sut y caiff ei drawsnewid trwy weithio mewn genres heblaw ffilm, megis cynyrchiadau theatr, dramâu radio a chelfyddyd weithredol. Yn hyn o beth, mae gennyf ddiddordeb arbennig ym mhosibiliadau gwleidyddol celfyddyd a sut mae artist cyfoes yn ymyrryd yn y maes cyhoeddus. Yma, yr wyf yn archwilio strategaethau trawsnewidiol celfyddyd Avant-garde. O ran y cwestiynau hyn, trefnais y gynhadledd ryngwladol"Christoph Schlingensief a'r Avant-Garde"yn y Zie Bielefeld fis Chwefror 2017.
Hefyd, yr wyf yn awyddus i archwilio dulliau ymchwil fel celfyddyd a sut y gall ymchwil ac academi ail-lunio'r cyswllt â'r cyhoedd trwy ymchwil artistig. Yn y cyd-destun hwnnw y dechreuais y project arbrofol "Bellotograph".
Mae diddordebau ymchwil lu i'w cael yn y cysylltiadau sydd â llenyddiaeth a phensaernïaeth ac, yn fwy cyffredinol, yn hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yr Almaen ar ôl 1945, gan gynnwys yr hen GDR. Yn fy nhraethawd doethur, rwy'n edrych ar drosiadau adeiladau ac anheddau yn llenyddiaeth a diwylliant yr Almaen ar ôl y rhyfel a heddiw. Yn ogystal, mae gennyf ddiddordeb yn llenyddiaeth gyfoes yr Almaen yn gyffredinol.)
- Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › Ymchwil › Adolygwyd gan gymheiriaid
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg
Deutschlandsuche '99 - Erster Imaginärer Opernführer - Wagner-Rallye '04
Pogoda, S., 15 Mai 2024, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Schlingensief-Handbuch: Leben – Werk – Wirkung. J.B.MetzlerAllbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg
Frühe Avantgarde
Pogoda, S., 15 Mai 2024, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Schlingensief-Handbuch: Leben – Werk – Wirkung.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg
Nachlass
Pogoda, S., 15 Mai 2024, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Schlingensief-Handbuch: Leben – Werk – Wirkung. J.B.MetzlerAllbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg
Theorie
Pogoda, S., 15 Mai 2024, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Schlingensief-Handbuch: Leben – Werk – Wirkung. J.B.MetzlerAllbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
- Rhagair/Ol-Nodiad › Ymchwil › Heb ei adolygu gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Einleitung zu "Strategien der Avantgarde. Kontinuitäten seit 1910"
Pogoda, S., 27 Rhag 2022, Wege der Germanistik in transkultureller Perspektive: Akten des XIV. Kongresses der Internationalen Vereinigung für Germanistik (IVG) (Bd. 9). Peter Lang, t. 303-307 4 t.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Rhagair/Ol-Nodiad
- Erthygl › Ymchwil
- Cyhoeddwyd
Germany is not Texas. Finding reunified Germany in the Rural: Christoph Schlingensief’s The German Chain Saw Massacre
Pogoda, S., 4 Mai 2020, Cine-Excess, 4.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigol › Erthygl
- Llyfr › Ymchwil › Adolygwyd gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Demiurgen in der Krise: Architektenfiguren in der Literatur nach 1945
Pogoda, S., 1 Medi 2013, Berlin: Ripperger & Kremers . 352 t.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
- Cynyrch Digidol neu Gweledol › Ymchwil
- Cyhoeddwyd
Golchi+
Pogoda, S. (Arall), Samina Ali, Lisa Hudson, Lindsey Colbourne & Wanda Zyborska, 9 Tach 2021Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Cynyrch Digidol neu Gweledol
- Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe › Ymchwil
- Cyhoeddwyd
Deutsch Walisische Freundschaft: Neue Walisische Kunst
Pogoda, S., 15 Ebr 2020Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe
- Cyhoeddwyd
Re-Inventing the Live Event - Blog
Pogoda, S. (Arall), 30 Meh 2022Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe