Dr Shaun Evans

Darlithydd a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru

Contact info

shaun.evans@bangor.ac.uk

+44 (0)1248383617

Manylion Cyswllt

shaun.evans@bangor.ac.uk

+44 (0)1248383617

Trosolwg

Mae Shaun yn Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ac yn Ddarlithydd mewn Hanes Modern Cynnar a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Mae Shaun yn wreiddiol o Sir Fflint ac astudiodd Hanes yn Efrog cyn gwneud ei ymchwil ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hunaniaeth linachol teulu ac ystâd y Mostyn yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Yn dilyn dyfarnu ei PhD gweithiodd fel aelod o Dîm Ymchwil yr Archifau Cenedlaethol.

Penodwyd Shaun yn Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn 2015, gyda chyfrifoldeb dros oruchwylio rheolaeth, cyfeiriad strategol a datblygiad deallusol y ganolfan ymchwil. Diben Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yw gwella ymgysylltiad cyhoeddus ac academaidd â hanesion, diwylliannau a thirweddau Cymru. Mae’n gweithredu mewn partneriaeth ag Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. I gael rhagor o wybodaeth am y sefydliad, ewch i http://iswe.bangor.ac.uk

Diddordebau Ymchwil

Mae Shaun yn hanesydd diwylliant bonedd ac ystadau tirfeddiannol yng Nghymru dros y cyfnod c.1500-1900. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar hanes cymdeithasol a diwylliannol perchnogaeth tir a’i rhyng-gysylltiadau â materion ehangach yn ymwneud â hunaniaeth, treftadaeth, achau, cysylltiadau cymdeithasol, a gweithrediad grym, statws ac awdurdod yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys diddordeb yn hanes gwleidyddol a diwylliannol Cymru a'i rhan yn creu Prydain ar ôl 1485 a Deddfau Uno 1536-43. Mae’r berthynas tirfeddiannwr-tenant, tirweddau ystadau, hunaniaethau’r bonedd a phlastai Cymru yn ffocysau pwysig yn ei waith. Mae hynny’n ymestyn at gyhoeddiadau ar herodraeth, trysorau teuluol ac arferion coffau, portreadau brodorol, llyfrgelloedd a materoldeb archifau.

Mae dull Shaun o wneud gwaith ymchwil yn gynhenid gydweithredol a rhyngddisgyblaethol. Mae'n mwynhau gweithio gyda phartneriaid mewn treftadaeth ddiwylliannol ar brojectau ymchwil wedi’u seilio ar gasgliadau sy’n cael effaith y tu hwnt i'r byd academaidd, gan gynnwys ym maes dehongli treftadaeth. Mae'n eiriolwr cryf dros fethodolegau hanes cyhoeddus ac ymgysylltu â'r gymuned.  Mae'r elfennau hyn i gyd wedi'u hymgorffori yn strategaeth a dulliau gweithredu ehangach Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Teaching and Supervision (cy)

Mae Shaun yn darlithio ac yn dysgu ar nifer o fodiwlau hanes modern cynnar a sgiliau ymchwil yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, gan gynnwys:

Israddedig:

HXH-1002: The Six Lives of Henry VIII

HGH-2133/3133: The Tudors: Politics, Society and Religion, 1485-1603

HTW-2127/3127: Wales and Europe in the Renaissance: Image, Language and Identity, c.1450-1630

Meistr:

HPH-4004: Research Skills

HPH-4005: Themes and Issues in History

HPH-4006: Documents and Sources – Medieval and Early Modern

HPS-4015: A (dis)united Kingdom? Early modern perspectives on the makeup of Britain, 1485-1707

 

Arall

Y tu hwnt i'w swyddogaethau ym Mhrifysgol Bangor, mae Shaun yn Gadeirydd Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru (https://www.newalesheritageforum.org.uk/), sy'n cynrychioli dros hanner cant o grwpiau hanes a threftadaeth leol ar draws Sir Ddinbych, Sir Fflint a Wrecsam. Mae'n Ymddiriedolwr y grŵp Darganfod Hen Dai Cymreig (https://discoveringoldwelshhouses.co.uk/), yn Noddwr Cyfeillion Archifau Clwyd ac yn aelod o Gyngor Cymdeithas Hanesyddol Sir Fflint. Mae hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Ymgynghorol ar gyfer project Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (https://historicplacenames.rcahmw.gov.uk/). 

Cyhoeddiadau (27)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (2)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau