Professor Thora Tenbrink

Athro

Dolenni cyswllt

Contact info

Deon Ymchwil mewn Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas 

Emailt.tenbrink@bangor.ac.uk

Phone: +44 (0)1248 38 2263

Location:

Ystafell 306, 37-41 Ffordd y Coleg,

Bangor, Gwynedd LL57 2DG, UK

Manylion Cyswllt

Deon Ymchwil mewn Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas 

Emailt.tenbrink@bangor.ac.uk

Phone: +44 (0)1248 38 2263

Location:

Ystafell 306, 37-41 Ffordd y Coleg,

Bangor, Gwynedd LL57 2DG, UK

Trosolwg

Rwy’n Athro Ieithyddiaeth a Deon Ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas. Mae fy mhrif ffocws ar ddadansoddi disgwrs, a ddefnyddir yn benodol i ddeall sut mae pobl yn meddwl. Rwy’n awdur “Cognitive Discourse Analysis:  An Introduction” (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2020) a “Space, Time, and the Use of Language” (Mouton de Gruyter, 2007). Rwy’n gyd-olygydd tri llyfr ar gynrychiolaeth ieithyddol a deialog, ac wedi cyhoeddi dros 40 o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid ym meysydd iaith, gwybyddiaeth a chyfathrebu. Yn y blynyddoedd diweddar mae fy sylw wedi symud oddi wrth ofod (deall lleoliadau gofodol a chysylltiadau) i le (cysylltiadau ystyrlon â gofodau), yn enwedig mewn perthynas â newid hinsawdd.

Rwyf bob amser wedi mwynhau cydweithio rhyngddisgyblaethol a rhyngwladol, o fewn meysydd gwybyddol neu wyddor cymdeithas a thu hwnt. Ar hyn o bryd rwy'n gysylltiedig â SellSTEM, rhwydwaith rhyngwladol o ymchwil cydweithredol a arweinir gan Ddulyn, ac mewn nifer o wahanol gynlluniau a phrojectau ledled Cymru sy’n rhoi sylw i safbwyntiau pobl, ac ymgysylltu â phryderon ynglŷn â’r amgylchedd. Ym Mangor, sefydlais y Ganolfan Ymchwil Lleoliadau Newid Hinsawdd lle rwyf yn Gyfarwyddwr erbyn hyn, sef rhwydwaith rhyngddisgyblaethol helaeth o ymchwilwyr sy'n mynd i'r afael ag agweddau seiliedig ar le mewn perthynas â bygythiadau, mesurau lliniaru ac ymgysylltu â'r newid yn yr hinsawdd. Rwyf hefyd yn cyd-arwain y rhwydwaith newydd WISERD ar gyfer Cymru gyfan: Ymatebion Newid Hinsawdd yn Seiliedig ar Le (PATCCh).

 

Diddordebau Ymchwil

Mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd rydym yn defnyddio iaith, ac yn beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am ein meddyliau (cysyniadau a phrosesau meddwl). At y diben hwn, datblygais ddull empirig, Cognitive Discourse Analysis (CODA: Tenbrink, 2015, a 2020, Cambridge University Press). Yn nodweddiadol mae hyn yn golygu rhoi tasg benodol i siaradwyr, lle maent yn mynegi eu meddyliau rhywsut, ac yn cofnodi'r hyn maent yn ei ddweud gan ymateb. Yna dadansoddir y data ieithyddol trwy edrych yn fanwl ar sut y defnyddir iaith i fynegi meddyliau. Gall mewnwelediadau fod yn gysylltiedig ag ymchwil flaenorol ar sut mae iaith yn cysylltu â meddwl - er enghraifft o ieithyddiaeth wybyddol ddamcaniaethol neu feysydd cysylltiedig eraill.

Mae llawer o fy ymchwil wedi canolbwyntio ar sut rydym yn deall ac yn siarad am ein hamgylcheddau gofodol, er enghraifft pan rydym yn ceisio dod o hyd i'n ffordd i gyrchfan, neu egluro sut i ddod o hyd i swyddfa mewn adeilad cymhleth. Yn fwy diweddar mae fy ffocws wedi troi at syniadau am le (yn hytrach na gofod): sut rydym yn mynegi mewn iaith beth mae lleoedd yn ei olygu i ni, sut maen nhw'n berthnasol i ni, ac ym mha ffyrdd y gallai hyn gael ei effeithio gan effeithiau (neu lliniaru yn erbyn) newid hinsawdd?

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i fy ngwefan, knirb.net.

Teaching and Supervision (cy)

Rwyf wedi addysgu modiwlau mewn nifer o feysydd Ieithyddiaeth a Gwyddorau Gwybyddol.

Ym maes Ieithyddiaeth, mae fy mhrif ffocws addysgu ar hyn o bryd yn ymwneud â methodoleg, yn benodol o ran defnyddio iaith ond hefyd yn rhychwantu meysydd eraill. Mae hyn yn cynnwys Swyddogaethau Disgwrs (sy'n cyflwyno dadansoddiad disgwrs ar sail Gramadeg Swyddogaethol Systemig Halliday), Dadansoddiad Disgwrs Gwybyddol (Cognitive Discourse Analysis), Dulliau Ymchwil mewn Ieithyddiaeth, ac Iaith a Chyfathrebu. Mae fy addysgu yn ymdrin â meysydd sylfaenol mewn Ieithyddiaeth (e.e., yn Sylfeini Ieithyddiaeth) ond mae hefyd yn tynnu ar fewnwelediadau ehangach o Wyddoniaeth Wybyddol.

Rwy'n hapus i oruchwylio prosiectau ôl-radd ym mhob un o'r meysydd uchod, yn enwedig y rhai sy'n defnyddio dadansoddiad disgwrs a/neu sy'n gysylltiedig ag ieithyddiaeth wybyddol, cyfathrebu, gramadeg swyddogaethol, a mwy - cysylltwch â mi i drafod!

Cyfleoedd Prosiectau Ol-Raddedig

Rwy'n croesawu ymholiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn PhD sy'n gysylltiedig â dadansoddi disgwrs gwybyddol a chyfathrebu.

Grantiau a Projectau

EU Project: Enhancing spatial ability to help close the gender gap in STEM Press release

Consortium member of EU project 956124: SellSTEM, EU H2020-MSCA-ITN-2020 Consortium initiated by Dr. Gavin Duffy, Dublin. Title: Spatial thinking in STEM learning: Training a new generation of researchers to increase enrolment and gender balance in STEM learning by addressing deficits in spatial ability among children in Europe. Duration: January 2021 - December 2024.

Meysydd Ymchwil ac Allweddeiriau

Allweddeiriau

  • P Philology. Linguistics

Addysg / cymwysterau academaidd

  • 2005 - DPhil

Cyhoeddiadau (67)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (36)

Gweld y cyfan

Anrhydeddau (1)

Gweld y cyfan

Sylw ar y cyfryngau (3)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau