Amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Fersiynau electronig

Dogfennau

  • rhifyn35-e3

    Fersiwn derfynol wedi’i chyhoeddi, 4.87 MB, dogfen-PDF

Dolenni

Yn yr erthygl hon, cyflwynir dadansoddiad meintiol o amrywio ffonolegol (ai) yn
y sillaf olaf ddiacen mewn perthynas â’r orgraffynnau , ac yng Nghymraeg Caerdydd. O ganlyniad i ddiffyg ymchwil ar Gymraeg Caerdydd, nid yw’n glir pa ffurf neu ffurfiau sy’n gyffredin ar gyfer (ai) yng Nghaerdydd erbyn hyn, a bydd yr erthygl hon yn cyflwyno darlun cyfredol o’r nodwedd hon trwy archwilio effaith cyffyrddiad tafodieithol a safoni ar Gymraeg Caerdydd. Ceir hefyd ddadansoddiad o ystod o ffactorau ieithyddol a chymdeithasol sy’n effeithio ar amrywio (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd. Mae’r erthygl hefyd yn ystyried goblygiadau ffurfio tafodiaith newydd yng nghyddestun adfywio ieithyddol.

Allweddeiriau

  • amrywio ieithyddol, Cymraeg, Caerdydd, cyffyrddiad tafodieithol, safoni, ffurfio tafodiaith newydd, adfywio ieithyddol
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadPhonological variation of (ai) in the final unstressed syllable in Cardiff Welsh
Iaith wreiddiolCymraeg
Tudalennau (o-i)47-75
CyfnodolynGwerddon
Cyfrol35
Rhif y cyfnodolyn1
StatwsCyhoeddwyd - 31 Gorff 2023

Cyfanswm lawlrlwytho

Nid oes data ar gael
Gweld graff cysylltiadau