Cau canghennau banc yng Nghymru - Tueddiadau a chymariaethau

Allbwn ymchwil: Cyfraniad arallCyfraniad Arall

Fersiynau electronig

Dolenni

Edrychodd y prosiect hwn ar newid yn rhwydwaith canghennau banc y pedwar banc mwyaf yng Nghymru ac yn y DU rhwng 1999 a 2015.•Mae canghennau banciau yn darparu gwasanaethau eang i gymunedau a busnesau lleol ac yn gysylltiad ffisegol hanfodol rhwng sefydliadau ariannol a'u cwsmeriaid.•Nodwyd fod y gangen yn amddiffyniad pwysig yn erbyn allgau ariannol. Mae deall tynged y rhwydwaith o ganghennau yn darparu lens pwysig i archwilio tirwedd ehangach o gynhwysiant ac allgau ariannol.•Crëwyd set ddata unigryw ar gyfer y prosiect hwn sydd yn cynnwys lleoliad canghennau pob un o'r pedwar banc mwyaf ym Mhrydainyn 1999 a 2016. Mae'r wybodaeth yn caniatáu i'r prosiect wneud cymariaethau rhwng niferoedd y canghennau banc a gaewyd yng Nghymru â gweddill y DU, rhwng ardaloedd gwledig a threfol, a rhwng ardaloedd cyfoethog a thlawd.•Mae'r canlyniadau’n cefnogi'r farnfod cau canghennau wedi digwydd yn bennaf mewn ardaloedd trefol llai cefnog. Mae lleoliadau gwledig mwy cyfoethog ar y cyfan wedi profi cyfraddau cau is na’r cyfartaledd. Ni chanfuwyd unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhwng y gyfradd gyfartalog o gau canghennau banc yng Nghymru a Lloegr.

Allweddeiriau

Iaith wreiddiolCymraeg
CyhoeddwrColeg Cymraeg Cenedlaethol
StatwsCyhoeddwyd - 4 Medi 2017
Gweld graff cysylltiadau