Effaith amlder iaith yn y cartref ar wybodaeth oedolion o’r system o greu enwau lluosog yn y Gymraeg
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Fersiynau electronig
Dogfennau
- 2016 Effaith amlder
Fersiwn derfynol wedi’i chyhoeddi, 347 KB, dogfen-PDF
Dolenni
- http://www.gwerddon.cymru/cy/rhifynnau/rhifyn22/erthygl2/
Fersiwn derfynol wedi’i chyhoeddi
Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio rôl ansawdd ac amlder amlygiad i fewnbwn ieithyddol (h.y. i ba raddau yr amlygir unigolion i iaith o wahanol ffynonellau yn ystod eu bywydau) ar gaffaeliad oedolion dwyieithog Cymraeg-Saesneg o’r system o greu enwau lluosog Cymraeg. Dangosodd ymchwil flaenorol y ceir gwahaniaethau rhwng plant dwyieithog o gefndiroedd iaith gwahanol. Er ei fod yn bosibl lleihau'r gwahaniaeth wrth iddynt gael eu hamlygu fwyfwy i’r iaith honno, mae cwestiwn ynghylch pa mor gyflym y gellir cael llai o wahaniaethau (os o gwbl) pan fo strwythurau iaith yn gymhleth, yn enwedig os defnyddir y system yn anghyson ymysg gwahanol oedolion. Fodd bynnag, mae i ba raddau y mae’r gwahaniaethau hyn yn diflannu yn ansicr, gan nad oes ymchwil wedi’i chynnal ymysg unigolion dros 11 oed. Felly nod yr astudiaeth oedd asesu gallu oedolion Cymraeg-Saesneg o wahanol gefndiroedd dwyieithog i greu ffurfiau lluosog o enwau Cymraeg er mwyn olrhain i ba raddau y gwelwyd lleihad yn y gwahaniaethau rhwng plant dros amser.
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
---|---|
Tudalennau (o-i) | 31-46 |
Cyfnodolyn | Gwerddon |
Rhif y cyfnodolyn | 22 |
Statws | Cyhoeddwyd - Hyd 2016 |
Cyfanswm lawlrlwytho
Nid oes data ar gael