Ystyr Anghyfiaith mewn Testunau Cymraeg Canol

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Fersiynau electronig

Dogfennau

Dangosydd eitem ddigidol (DOI)

  • Rebecca Thomas
Mae’r erthygl hon yn ymdrin â rôl iaith yn y broses o ddatblygu hunaniaethau yn yr Oesoedd Canol trwy astudio’r defnydd o anghyfiaith mewn testunau Cymraeg Canol. Ymddengys anghyfiaith mewn ystod eang o destunau ac mae’r drafodaeth yn ystyried testunau cyfreithiol, barddoniaeth a rhyddiaith (a gyfieithwyd o’r Lladin i’r Gymraeg) yn eu tro. Mae’r defnydd o anghyfiaith mewn cymaint o gyd-destunau gwahanol yn tystio i bwysigrwydd iaith fel gwahaniaeth rhwng pobloedd yn y testunau hyn. Yn y cyfreithiau, mae’r anghyfiaith yn gategori o
bobl ag anallu cyfreithiol ac mae’r gair hefyd yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o ddiffinio Cymru. Defnyddir anghyfiaith yn aml yn y farddoniaeth a’r rhyddiaith i ddisgrifio gelyn y Cymry – y Saeson fel arfer. Yma, tanlinellir iaith fel gwahaniaeth rhwng y Cymry a phobloedd eraill. Ond trwy gymharu’r rhyddiaith gyda’r testunau Lladin y’i seiliwyd arnynt, gwelir bod anghyfiaith yn aml yn gyfieithiad o’r Lladin barbari. Ymhellach, mae’r erthygl hon yn awgrymu y defnyddir anghyfiaith, mewn rhai cyd-destunau, i ddisgrifio’r rhai hynny nad oeddent yn
medru’r Lladin – hynny yw, nad oeddent yn rhan o’r byd Cristnogol. Mae’r ymchwiliad hwn i ystyr anghyfiaith, felly, yn taflu goleuni ar yr hunaniaethau cymhleth a haenog a grëwyd yn y testunau hyn.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadThe meaning of Anghyfiaith in Middle Welsh Texts
Iaith wreiddiolCymraeg
Tudalennau (o-i)75-96
Nifer y tudalennau22
CyfnodolynStudia Celtica
Cyfrol55
Rhif y cyfnodolyn1
Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs)
StatwsCyhoeddwyd - 1 Rhag 2021

Cyfanswm lawlrlwytho

Nid oes data ar gael
Gweld graff cysylltiadau