Astudiaeth destunol o statud Gruffudd ap Cynan

Electronic versions

Dogfennau

  • Einir Gwenllian Thomas

Abstract

Yn y traethawd hwn, ceir astudiaeth o destun a anwybyddwyd braidd yn y gorffennol, sef Statud Gruffudd ap Cynan. Yn yr adran gyntaf ceir rhagymadrodd lie rhestrir y llawysgrifau sy’n cynnwys y Statud, lie trafodir cynnwys y ddogfen, a lie ceir trafodaeth ar berthynas y testunau o’r Statud a erys heddiw. Ymhellach, ceisir lleoli’r ddogfen yn ei chyd-destun hanesyddol a chymdeithasol, a cheir trafodaeth ar Eisteddfodau Caerwys 1523 a 1567, ac ar gysylltiad Gruffudd ap Cynan á’r Statud. Yn olaf, trafodir y cysylltiad rhwng Statud Gruffudd ap Cynan a chyfundrefn y beirdd yn yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modem Cynnar, a cheir adran sy’n esbonio rhywfaint ar yr elfennau cerddorol y cyfeirir atynt yn y ddogfen.
Yn yr ail adran ceir testunau golygedig o wahanol fersiynau o Statud Gruffudd ap Cynan, a gwelir bod pob testun yn nodweddiadol o ryw deulu arbennig o destunau - testunau a drafodwyd eisoes yn y rhagymadrodd. Yn olaf, ceir geirfa lie rhestrir yr enwau, y berfau, a rhai ymadroddion a geir yn y testunau a olygwyd, a cheir rhestr o’r enwau priod a geir yn y Statud, gan gynnwys enwau personau ac enwau lleoedd.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
    Dyddiad dyfarnu2001