Delweddu Catrin o Ferain Mewn Llun a Gair

  • Helen Williams-Ellis

    Meysydd ymchwil

  • PhD

Abstract

Yn y thesis hwn, cynigir bywgraffiad cynhwysfawr o Gatrin o Ferain (1535-1591) drwy gyfrwng ymdriniaeth â chanu’r beirdd iddi hi a’i thylwyth ochr yn ochr â thystiolaeth weledol, ddarluniadol berthnasol. Rhennir y gwaith yn saith pennod. Yn y bennod gyntaf, tafolir y dadleuon parthed hynafiaid Catrin o du ei mam Siân Filfel, a thadolaeth ei thaid, Syr Roland Filfel. Ystyrir yma yr honiad ei fod yn fab gordderch i'r brenin Harri Tudur. Dyna, yn sicr, ensyniadau cryf y beirdd. Rhoddir hefyd ystyriaeth o'r newydd i dystiolaeth weledol y llawysgrifau, a chynigir darlleniad gofalus o farwnad Dafydd Alaw i Roland Filfel.

Yn yr ail bennod, tafolir y dystiolaeth parthed dyddiad geni Catrin o Ferain, ac ystyrir y gynhysgaeth ddiwylliannol ar aelwyd Berain. Trwy archwilio'r canu i'w hynafiaid, a'i thad Tudur ap Robert yn benodol, ceisir ychwanegu at y darlun o Ferain yng nghyfnod plentyndod Catrin, cyn iddi briodi a symud i Leweni. Cyfeirir yma hefyd at ymchwil dendrocronolegol a wnaed ar dŷ Berain yn 2014.

Yn y drydedd bennod, Catrin Salsbri fydd dan y chwyddwydr. Trafodir ei phriodas â Siôn Salsbri, Lleweni, a genedigaeth ei dau fab, Tomas a Siôn, yn y blynyddoedd 1561-6. Canolbwyntir ar ddatblygiad ei pherthynas â'r bardd Wiliam Cynwal, a'r rhwydweithiau teuluol benywaidd a fodolai ym Merain yn y cyfnod. Ymdrinnir â'r broses o ddelweddu Catrin ym marddoniaeth y cyfnod, ac eir ati i gymhathu'r dystiolaeth farddol â nodweddion gweledol y portread ohoni gan ?Adriaen van Cronenburgh.

Trafodir ym mhennod pedwar ei phriodas â Rhisiart Clwch, 1567-70, priodas a aeth â hi, fel gwraig i farsiandïwr dylanwadol, i'r Iseldiroedd, Sbaen a'r Almaen. Cynigir yma ymdriniaeth fanwl â'r darluniau o Gatrin a Rhisiart Clwch a beintiwyd ar y cyfandir, ynghyd â dadansoddiad manwl o'r cywyddau a ganodd Wiliam Cynwal iddynt. Cyd-destunolir y darluniau a'u derbyniad o fewn y cyd-destun Cymreig, Seisnig a chyfandirol.

Morys Wyn o Wydir oedd trydydd gŵr Catrin o Ferain, a bu ef farw yn 1580. Ymdrinnir yn y bumed bennod â'r pwysau cymdeithasol ac economaidd a fynnai fod gwraig weddw, a mam i blant-dan-oed, yn priodi, dro ar ôl tro. Ceir astudiaeth yma o indentur priodasol dynastig mab hynaf Catrin â merch Morys Wyn, ac oblygiadau marw ei thad-yng-nghyfraith, Syr Siôn Salsbri.

Edward Thelwal o Blas-y-Ward, Ruthun oedd pedwerydd gŵr Catrin o Ferain. Ym mhennod chwech, ystyrir eto gymhellion Catrin i briodi unwaith yn rhagor. Sonnir am gynhysgaeth teulu Plas-y-Ward ac am chwalfa teulu Catrin yn sgil teyrnfradwriaeth ei mab hynaf, Tomas Salsbri, yn 1587. Gosodir dienyddio Tomas Salsbri yn erbyn cefndir crefyddol cythryblus yr oes.

Bu farw Catrin yn Awst 1591 a'i chladdu yn Eglwys Llannefydd. Trafodir yn y bennod olaf y corff sylweddol o farwnadau a ganwyd iddi gan dri ar ddeg o feirdd, yn Gymraeg, Lladin a Saesneg. Cynigir darlleniadau newydd o'r marwnadau Lladin a luniwyd ar achlysur ei harwyl. Yn olaf, ystyrir gwaddol Catrin fel 'Mam Cymru', a cheir crynodeb byr o briodasau ei holl dylwyth.

Ar derfyn y cofiant, ceir Atodiadau sy’n cynnwys trawsgrifiadau o ewyllysiau Rhisiart Clwch a detholiad o’r canu i deulu Thelwal, Plas-y-Ward.

Details

Iaith wreiddiolSaesneg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Dyddiad dyfarnu3 Chwef 2020