'Segur fydd y cŷn a'r morthwyl mwy' : dehongli portreadau o'r bröydd chwarelyddol ers 1972

Electronic versions

Dogfennau

  • Elin Gwyn

    Meysydd ymchwil

  • School of Welsh

Abstract

Mae’r ddoethuriaeth hon yn astudiaeth o’r ffordd mae’r bröydd chwarelyddol–
y chwarelwyr, y diwydiant llechi a’r gymdeithas- wedi cael eu portreadu ers 1972. Byddaf yn canolbwyntio ar brif fröydd chwarelyddol gogledd Cymru; Blaenau Ffestiniog, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Dyffryn Peris. Y prif gyfryngau y byddaf yn eu hastudio yw twristiaeth, papurau bro, hunangofiannau bro, llenyddiaeth, ffilm a theledu, cerddoriaeth a chelf. Dyma’r cyfryngau
a fu’n fodd i gynnal ac ail -greu’r cof cyhoeddus am y diwydiant llechi yn y cyfnod diweddar. Trwy ymchwilio i’r holl gyfryngau hyn, byddaf yn canfod
a dadansoddi sut mae’r bröydd chwarelyddol yn cael eu portreadu ar draws y sbectrwm cyhoeddus ers 1972.
Defnyddiaf 1972 fel dechrau’r cyfnod ôl-ddiwydiannol ond byddaf yn
cyfeirio at weithiau sy’n rhagflaenu’r cyfnod hwn yn ogystal er mwyn gosod
cefndir i’r portreadau diweddarach. Bydd y prosiect hwn yn datgelu ‘myth’ y
chwarelwr a’r ystrydebau sy’n codi dro ar ôl tro wrth bortreadu’r bröydd
chwarelyddol. Byddaf yn ceisio canfod gwreiddiau’r‘myth’ a chonfensiynau’r
portread o chwarelwr yn ogystal â’r ymdrechion i herio’r ystrydebau. Wrth
astudio’r holl gyfryngau hyn byddaf yn ystyried a yw’r portread a geir yn un
cytbwys neu’n euog o ramantu a gorbwysleisio rhinweddau’r bröydd
chwarelyddol a’u cymdeithas.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Noddwyr traethodau hir
  • Knowledge Economy Skills Scholarship (KESS)
Dyddiad dyfarnu12 Awst 2014