Yr Athro Angharad Price

Athro mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol

Contact info

 

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Prifysgol Bangor

Bangor

LL57 2DG

 

a.price@bangor.ac.uk

+44 (0)1248 382097

Manylion Cyswllt

 

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Prifysgol Bangor

Bangor

LL57 2DG

 

a.price@bangor.ac.uk

+44 (0)1248 382097

Teaching and Supervision (cy)

Modiwlau israddedig

  • Theatr Fodern Ewrop
  • Rhyddid y Nofel
  • Gweithdy Rhyddiaith
  • Y Theatr Gymraeg Fodern
  • Traethawd Estynedig

 

MA

MA yn y Gymraeg

MA mewn Ysgrifennu Creadigol

 

PhD

Wedi cyfarwyddo traethodau PhD llwyddiannus y myfyrwyr isod:

  • 2008 Judith Kaufmann (Astudiaethau Cyfieithu)
  • 2010 Non Meleri Hughes  (Llenyddiaeth Gymraeg)
  • 2011 Sian Owen (Ysgrifennu Creadigol)
  • 2011 Rhodri Llyr Evans (Llenyddiaeth Gymraeg)
  • 2012 Dylan Rees (Ysgrifennu Creadigol)
  • 2013 Elin Gwyn (Llenyddiaeth Gymraeg)
  • 2014 Eiddwen Jones (Ysgrifennu Creadigol)
  • 2015 Meg Elis (Ysgrifennu Creadigol)
  • 2019 Samuel Jones (Llenyddiaeth Gymraeg ac Astudiaethau Cyfieithu)
  • 2019 Cefin Roberts (Ysgrifennu Creadigol)
  • 2021 Elis Dafydd (Llenyddiaeth Gymraeg)
  • 2021 Ruth Richards (Llenyddiaeth Gymraeg a ffotograffiaeth)

 

Wedi cyd-gyfarwyddo traethodau PhD llwyddiannus y myfyrwyr isod:

  • 2008 Eleri Hedd James (Llenyddiaeth Gymraeg)
  • 2009 Geraldine Lublin (Llenyddiaeth Gymharol)
  • 2014 Adam Pearce (Astudiaethau Cyfieithu)
  • 2016 Sian Northey (Ysgrifennu Creadigol)

 

Ar hyn o bryd yn cyfarwyddo traethodau PhD y myfyrwyr isod:

  • Angharad French (Ysgrifennu Creadigol)
  • Rosie Dymond (Llenyddiaeth Gymraeg)

 

 

 

Diddordebau Ymchwil

  • Rhyddiaith Gymraeg
  • Ysgrifennu creadigol
  • Llenyddiaeth gymharol
  • Y Dadeni
  • Astudiaethau Cyfieithu

Trosolwg

Magwyd ym Methel, Arfon ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Bethel ac Ysgol Brynrefail, Llanrug. Graddiodd mewn Ieithoedd Modern yng Ngholeg Iesu, Rhydychen lle cwblhaodd hefyd draethawd DPhil mewn Astudiaethau Celtaidd.

Bu'n ddarlithydd ym mhrifysgolion Fienna, Abertawe a Chaerdydd cyn ymuno ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn 2006.

Mae maes ei hymchwil yn cynnwys astudiaethau llenyddol ac ysgrifennu creadigol, ac mae wedi cyhoeddi cyfrolau ac ysgrifau niferus yn y meysydd hynny.

  • Mae Ffarwél i Freiburg yn astudiaeth o waith T. H. Parry-Williams a enillodd wobr Ellis Griffith ac a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2014.
  • Ei nofel gyntaf oedd O, Tyn y Gorchudd a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2002 a gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003. Mae wedi ei chyfieithu i chwech o ieithoedd (Saesneg, Almaeneg, Rwmaneg, Sbaeneg, Bengaleg a Chatalaneg).
  • Ei hail nofel oedd Caersaint a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2011.
  • Y ddrama Nansi oedd drama gomisiwn Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2015 ac enillodd wobr y Dramodydd Cymraeg Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2017.

Cyhoeddodd Trysorau Cudd Caernarfon yn 2018, cyfres o 25 o ysgrifau byrion gyda ffotograffau gan Richard Outram. Gellir lawrlwytho ap ffôn symudol yn rhad ac am ddim i gyd-fynd â'r gyfrol.

Cyhoeddwyd Ymbapuroli yn 2020, sef casgliad o ddeuddeg o ysgrifau am amrywiol bynciau, o Jan Morris i Gapel Bethel ac o Gaergybi i Ngugi wa Thiong'o. Cyrhaeddodd y gyfrol restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2021.

Cyfrol ddiweddaraf Angharad yw Gororion (2023) sy'n olrhain rhai cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Cymru a chyfandir Ewrop.

Bu'n gyd-olygydd Tu Chwith (1995-1999) ac Ysgrifau Beirniadol (2011-2016), a hi yw golygydd Chwileniwm (2002), cyfrol o erthyglau rhyngddisgyblaethol ar lenyddiaeth a thechnoleg. Mae'n gyfieithydd profiadol o'r Almaeneg, y Ffrangeg, yr Eidaleg a'r Sbaeneg, a chyd-olygodd Translation Studies: Special Issue Wales gyda H. Miguelez-Carballeira a J. Kaufmann yn 2016.

Yn 2014 dyfarnwyd iddi Fedal Glyndwr am ei chyfraniad i'r celfyddydau yng Nghymru.

Addysg / cymwysterau academaidd

  • 1998 - DPhil mewn Astudiaethau Celtaidd (1995 - 1998)
  • 1994 - BA mewn Ieithoedd Modern (1990 - 1994)

Cyhoeddiadau (42)

Gweld y cyfan

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (143)

Gweld y cyfan

Anrhydeddau (9)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau