Teledu 'Da'? Ystyriaethau golygyddol wrth greu cynyrchiadau dogfen am y celfyddydau i S4C.

Electronic versions

Dogfennau

    Meysydd ymchwil

  • Dogfen, Teledu, Celfyddydau, S4C, PhD, School of Languages, Literature and Linguistics

Abstract

Astudiaeth yw hon o ddetholiad o raglenni dogfen am y celfyddydau a gynhyrchwyd gan Gwmni Da i S4C tra bûm yn gweithio fel cynhyrchydd i’r cwmni teledu annibynnol o Gaernarfon rhwng 2002 a 2012. Maent yn ymdrin ag amrywiaeth o destunau celfyddydol, mewn meysydd sydd yn cynnwys celf, cerddoriaeth a llenyddiaeth, a’r thema ganolog wrth eu dadansoddi yw’r cysylltiad rhwng ystyriaethau o safon a hygyrchedd o fy safbwynt i fel cynhyrchydd. Cynhyrchais nifer sylweddol o raglenni dogfen celfyddydol eraill, yn ogystal â nifer uwch o raglenni cylchgrawn a thrafod yn y maes hwn yn ystod fy nghyfnod gyda’r cwmni, ond dewiswyd y rhaglenni hyn gan fy mod naill ai wedi eu cyfarwyddo, yn ogystal â’u cynhyrchu, neu fy mod wedi bod yn rhagweithiol iawn yn greadigol, wrth gydweithio gyda chyfarwyddwr arall. Serch hynny, mae’r profiad o weithio ar y cynyrchiadau eraill a’r amodau diwydiannol cyffredinol yn berthnasol iawn fel cefndir i’r astudiaeth hon. Maent hefyd yn rhaglenni sydd yn amlygu’r dewisiadau amrywiol a wyneba cynhyrchydd sydd yn gweithio yn y maes hwn, ac yn arbennig y graddau y mae ffurf, thema ac arddull cynyrchiadau ym maes y celfyddydau yn adlewyrchu ystyriaethau sydd yn ymwneud â’r angen i barchu’r pwnc a cheisio denu cynulleidfa dda. Rhoddir sylw unigol i naw cynhyrchiad, ond trafodir tair ohonynt o fewn yr un bennod, sef y rhaglenni ym maes Hanes Celf a oedd wedi eu seilio ar waith ymchwil gan yr hanesydd celf, Peter Lord. Mae’r dadansoddiadau yn canolbwyntio ar agweddau megis strwythur y rhaglenni, y dull o gyflwyno, a gwerthoedd cynhyrchu cyffredinol. Rhoddir pwyslais cyson ar y berthynas rhwng ystyriaethau golygyddol a oedd yn ymwneud â fy nirnadaeth o ansawdd rhaglenni a’r dyhead i apelio at gynulleidfa mor eang â phosib ond heb elyniaethu’r gwylwyr hynny a oedd â diddordeb arbennig ym maes y celfyddydau. Cyflwynir y naw rhaglen fel rhan o’r astudiaeth.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
  • Bangor University
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Dyddiad dyfarnu8 Hyd 2020