Dr Geraint Ellis

Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau

Contact info

Bywgraffiad 

Wedi graddio yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen, rydw i wedi dilyn gyrfa sy’n pontio’r byd academaidd a’r byd darlledu, ac wedi cael cyfnodau yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, BBC Cymru, Prifysgol Bangor a chwmni teledu Cwmni Da. Mae gen i felly dros bymtheg mlynedd o brofiad o weithio ym myd addysg uwch a phymtheg mlynedd o brofiad yn cynhyrchu rhaglenni radio a theledu. Mae fy nghefndir yn y byd darlledu ym maes darlledu celfyddydol yn bennaf, a dyma ydy testun y ddoethuriaeth rwy’n ei chyflawni ar hyn o bryd.

Dysgu 

Rydw i’n gyfrifol am gydlynu a dysgu modiwlau ym maes ymarfer y cyfryngau ac am y diwydiannau creadigol yn fwy cyffredinol, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, gan arbenigo ym maes Astudiaethau Radio yn bennaf. Rydw i hefyd yn arolygu astudiaethau ymchwil unigol gan israddedigion a myfyrwyr Meistr.

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn cydfynd i raddau helaeth â fy mhrofiadau galwedigaethol, ac yn cynnwys y canlynol:

  • Darlledu celfyddydol
  • Radio yng Nghymru
  • Hanes Ffilm yng Nghymru

Detholiad o bapurau, cyflwyniadau cynhadledd a chyhoeddiadau

  • ‘Y safonol a’r poblogaidd mewn rhaglenni dogfen celfyddydol: profiad cynhyrchydd’, papur a gyflwynwyd yn y symposiwm ‘Iaith/Llais’ (Language/Voice), Prifysgol Aberystwyth, Mehefin 2015.
  • Pennod, o dan y teitl ’Twin Town, Ffilmiau’r 1990au a’r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig’, yn ‘Ysgrifau ar Ffilm a’r Cyfryngau’, gol. E.H.G. Jones, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Awst 2012.
  • Cyflwyniad ar raglenni teledu celfyddydol, cynhadledd Cyfrwng, Prifysgol Abertawe, Gorffennaf 2012.
  • ‘Addysgu’r Genedl? – Cyfraniad Darlledu yng Nghymru’, cyfraniad i’r gynhadledd  cyfryngau ac addysg, ‘Adrodd ein Stori’, Prifysgol Abertawe2011.
  • ‘Ffilm, Ffantasi a Fformiwla’, erthygl yn Tu Chwith, 2003.
  • 'Ffilmiau’r Nawdegau a’r Etifeddiaeth Ffilm Gymreig’, cynhadledd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2002.
  • ‘Hanes Ffilm a’r Cyfryngau yng Nghymru’, cynhadledd Prifysgol Bangor i fyfyrwyr rhyngwladol, Gregynog, 2001.
  • ‘Old Wales, New Wales and the Cinema: Issues of representation and genre in Welsh and Welsh-based feature films’, papur i’r gynhadledd Ffilmiau Tramor? Y Sinema Ewropeaidd tu hwnt i’w ffiniau, Bangor, 2001.
  • ‘Stereophonic Nation: The Bilingual Sounds of Cool Cymru FM’, International Journal of Communication, 2000, a phapur o’r un enw a gyflwynwyd yn y gynhadledd ryngwladol Radiocracy, Caerdydd, 1999.
  • Colofnau/erthyglau rheolaidd ym maes Radio a gyhoeddwyd yn Barn 1995-1998, e.e. ‘Damcaniaeth y Big Bang’, Rhagfyr 1995; ‘Radio Cymru i Cym FM – Arolwg Iaith Radio Cymru’, Chwefror 1997; ‘Miss Wales’, Gorffennaf 1997.

Detholiad o gynyrchiadau radio a theledu

  • Cynhyrchu/uwch-gynhyrchu 8 cyfres gylchgrawn o’r Sioe Gelf (2002-09).
  • Un o sefydlwyr/uwch-gynhyrchydd/cynhyrchydd gwasanaeth Pethe (2010-11)
  • Cynhyrchu a chyfarwyddo nifer o raglenni dogfen ym maes y celfyddydau:

Lleisiau Mewn Anialwch – Stori Brodyr y Ffin (2004), Pesda Roc (2005),  Cyfrinach Merch Taliaris (2005), Rhodri Jones – Yn Ôl (2006), Tro yn yr Yrfa  - Stori Archie Rhys Griffiths (2006), Ar Drywydd Dic Aberdaron (2007), Y Bêl Gelfydd (2008).

  • Cynhyrchu a chyfarwyddo’r rhaglen ddogfen hanes Y Royal Charter (2009).
  • Cynhyrchu a chyfarwyddo’r rhaglen adloniant ffeithiol 40 Uchaf Siart y Dywediadau, (2009).
  • Cynhyrchu rhifynnau o’r  rhaglenni trafod Croma (2003) a Sioe Gelf 'Steddfod (2006, 2007), yn ogystal â Pethe Hwyrach (2010-11), Dweud Pethe (2010-11).
  • Cynhyrchu/uwch-gynhyrchu nifer o raglenni dogfen celfyddydol eraill, e.e. Dyrys Daith (2005), Galeri – Yn y Doc (2005), Theatr i’r Bobl (2007), Yr Ail Filltir  (2007), Lawr yn y Ddinas (2008), Man Gwyn, Man Draw (2008), Rhwng y Llygru a’r Glasu (2008), Salem (2008), Adrodd: yr Hanes (2009), Tydi a Roddaist (2009), Prosiect y Plygain (2009), Therapi Celf – Mwy na Geiriau (2009), Cymru yn Washington (2009), Fi a Mr Urdd (2010), Annette Bryn Parri - Byd o Gerdd (2011), Pobl y Ffin (2011).
  • Cyd-gyfarwyddo’r rhaglen ddogfen gelfyddydol Duw a Ŵyr, a gafodd

enwebiad am y rhaglen gelfyddydol orau yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd.

  • Cynhyrchu nifer fawr o raglenni radio i Radio Cymru rhwng 1988 a 2002, yn bennaf ym meysydd rhaglenni ffeithiol a cherddoriaeth, ee Stondin Ddyddiol, Sioe Siartiau, Gill.
  • Un o sylfaenwyr y gwasanaeth cerddorol Hwyrach ar Radio Cymru yn 1989, a sefydlydd a chynhyrchydd cyntaf y rhaglen boblogaidd Ar y Marc yn 1992.
  • Cyflwyno sesiynau cerddorol byw rheolaidd ar Radio Cymru am y tro cyntaf, 1990.
  • Wedi cynhyrchu deunydd ffeithiol/chwaraeon i Radio Wales a Radio 5.

Cyfrifoldebau gweinyddol presennol

  • Cadeirydd Pwyllgor Dysgu ac Ymchwil Cyfrwng Cymraeg yr ysgol
  • Swyddog Cyflogadwyedd yr ysgol
  • Swyddog Ehangu Mynediad yr ysgol
  • Aelod o bwyllgor Dysgu ac Addysgu yr ysgol.
  • Aelod o bwyllgor cyfrwng Cymraeg Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
  • Un o gynrychiolwyr y Coleg ar Grŵp Tasg Iaith Gymraeg y Brifysgol.

Arolygu ac adolygu allanol a.y.y.b.

  • Arholwr allanol i Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth 2002-06.
  • Arholwr allanol i adrannau Cyfryngau/Cymraeg Prifysgol Abertawe o 2012-2016.
  • Darllenydd i Wasg Prifysgol Cymru, 2012.
  • Beirniad, Gŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gwobrau Radio Ffocws, Gŵyl Ffilmiau Mynydd Llanberis.

Trefnu cynadleddau/gwyliau/digwyddiadau

  • Aelod o bwyllgor gwaith Fflic Fflac – gŵyl y cyfryngau a’r ifanc 1994-97.
  • Aelod o bwyllgor gwaith Gŵyl Ffuglen/Ffuglen Gwlt Bangor 1997-2001, gan gyflwyno amryw o ffilmiau yn yr ŵyl bob blwyddyn.
  • Un o drefnwyr cynhadledd Cyfrwng, Bangor 2014.
  • Un o drefnwyr y digwyddiad rhwydweithio, Tu Hwnt i’r Ffiniau ym Mangor yn Ionawr 2018.

Gweithgareddau eraill

  • Cadeirio sesiynau Cwestiwn ac Ateb ym Mhontio a Galeri.
  • Trefnu a chynnal gweithdai cyfryngau i ysgolion a grwpiau cymunedol yn yr ardal – cynllun TOP ac eraill.
  • Sylwebydd i’r cyfryngau am faterion yn ymwneud â Radio.

Manylion Cyswllt

Gweithgareddau a dyfarniadau proffesiynol (23)

Gweld y cyfan

Prosiectau (1)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau