Traddodiad a newydd-deb yn nofelau Wiliam Owen Roberts

Electronic versions

Dogfennau

  • Non Hughes

    Meysydd ymchwil

  • PhD, School of Welsh and Celtic Studies

Abstract

Bwriad y thesis hwn yw ymchwilio ymhellach i’r berthynas rhwng amrywiol agweddau ar ‘draddodiad’ a newydd-deb llenyddol. Diriaethir y drafodaeth yn nofelau Wiliam Owen Roberts. Ef oedd un o’r awduron creadigol Cymraeg cyntaf i gwestiynu’r syniad o draddodiad yn ei nofelau, ac fe welir yn eglur yn y traethawd hwn ei fod yn ymestyn ffiniau’r traddodiad llenyddol Cymraeg yn ogystal â chynnig beirniadaeth ar y traddodiad hwnnw. Rhannwyd y traethawd yn chwe phennod sy’n goleuo agweddau canolog ar nofelau Wiliam Owen Roberts. Gan fod y syniad o draddodiad (a newydd-deb) yn llinyn cyswllt trwy’r penodau, mae’r bennod gyntaf un wedi ei neilltuo i drafod y syniad o ‘draddodiad’ yn ehangach. Yn yr ail bennod ceir trafodaeth ary nofel hanes asyniadau’r hanesydd llenyddol Marcsaidd Georg Lukács. Yn dilyn hyn ceir dwy bennod sy’ncanolbwyntio’n bennaf ar Paradwys.Mae’r gyntaf o’r rheiny’n trafod caethwasiaeth a’r ail yn ymdrin â thraddodiad y cofiant. Mae pennod pump yn trafod gwaithyr awdur mewn cyswllt â gwaith awdur gwrth-realaidd arallo’r un genhedlaeth ag ef, Angharad Tomos. Bwriad y bennod olaf yw agor trafodaeth ar drioleg arfaethedig Wiliam Owen Roberts, gan ganolbwyntio ar y nofel gyntaf, Petrograd. Hyderir y bydd yr ymchwil hon –sef y drafodaeth estynedig gyntaf i ganolbwyntio’n llwyr ar waith un o nofelwyr mwyaf arwyddocaol y Gymru gyfoes –yn sail i drafodaethau pellach ar ei nofelau, ac yn fodd i bwysleisio sut y manteisioddWiliam Owen Robert arhyblygrwydd y nofel i drin a thrafod traddodiad yn ei holl agweddau, gan greu yr un pryd lenyddiaeth newydd a chyffrous.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Dyddiad dyfarnuIon 2011