Wyneb yn wyneb Hunaniaethau llenyddol Cymraeg a Chymreig yn erbyn cefndir refferenda 1979 a 1997

Electronic versions

Dogfennau

  • Menna Machreth Jones
  • Menna Jones

    Meysydd ymchwil

  • School of Welsh and Celtic Studies

Abstract

Yn y traethawd hwn, byddir yn archwilio agweddau ar hunaniaethau Cymraeg a Chymreig yn erbyn cefndir ac yng nghyd-destun y ddwy refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru – y gyntaf ym 1979, pan gafwyd pleidlais sylweddol yn erbyn mesur o ddatganoli, a’r ail ym 1997, pan lwyddodd yr ymgyrch o blaid mesur o hunanreolaeth o drwch blewyn. Yn y cyswllt hwn, beirdd yn bennaf fydd dan sylw, ond ceir hefyd ymdriniaeth â dau lenor, na ellir, oherwydd eu harwyddocâd cwbl ganolog, anwybyddu eu cyfraniad i’r maes, a hynny ar ffurf gweithiau rhyddiaith, cyhoeddiadau uniongyrchol wleidyddol a dramâu. Byddir yn ymdrin â gwaith y beirdd a’r llenorion dan sylw trwy gyfrwng ystyriaeth o wahanol barau neu bartneriaethau creadigol, gyda natur y pâr yn wahanol ym mhob achos. Yn y bennod gyntaf, creffir ar ymateb y Cymro T. James Jones a’r Americanwr Jon Dressel i ganlyniadau’r ddwy refferendwm; pâr teuluol yw ffocws yr ail bennod, lle trafodir gweithiau Twm Morys a’i fam Jan Morris, a hynny yn unigol ac ar y cyd; bwrir golwg yn y drydedd bennod ar waith Raymond Garlick ac ar y cysyniad o newid hunaniaeth bersonol a phennu ymlyniadau diwylliannol newydd; yn y bedwaredd, astudir gweithiau dau awdur cynhyrchiol a ystyrir yn ‘Llenorion yr Achos’ yn y Gymraeg, sef Angharad Tomos a Gareth Miles; oeuvre Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis – yn Gymraeg ac yn Saesneg – yw pwnc y bumed bennod; ac yn y bennod olaf, byddir yn ymchwilio i’r berthynas rhwng Menna Elfyn a’r grŵp o gyfieithwyr a gynhyrchodd, rhyngddynt, gyfres o gasgliadau dwyieithog o waith y bardd. Ceir hefyd Ddiweddglo lle y bwrir golwg yn ôl ar y parau hyn, a lle y trafodir gwaith Iwan Llwyd fel modd o bennu trywydd buddiol pellach.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Noddwyr traethodau hir
  • Arts and Humanities Research Council (AHRC)
Dyddiad dyfarnuIon 2012