Ynni Cynaliadwy yng Nghymru

Electronic versions

Dogfennau

  • Gwenith Hughes

Abstract

Mae adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd yn rhybuddio y
bydd canlyniadau difrifol os na fydd y byd yn uno i weithredu: codiad yn lefel y mor, llifogydd amlach, anoddach i 'w rhagweld a chyfnodau o sychder difrifol; newyn mewn mannau o'r byd, yn enwedig yn Affrica a Chanol Asia; a cholli traean o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion y byd (2001). Pwysleisiwyd yn yr adroddiad y byddai cost gwneud dim - yn ecolegol, yn ariannol ac i 'r ddynoliaeth - yn llawer iawn mwy na chost gweithredu ar fyrder.
Crisialwyd hyn gan ysgrifennydd y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon yn ei
anerchiad i'r gynhadledd ar newid hinsawdd yn Bali yn Rhagfyr 2007. Meddai
"Mae'r amser i fod yn amwys ar ben. Mae'r wyddoniaeth yn eglur. Mae newid hinsawdd yn digwydd, ac yn cael effaith wirioneddol. Nawr yw'r amser i weithredu (Ki-moon, 2007:1)."
Ers dechrau'r ymchwil hwn bu newid llywodraeth yng Nghaerdydd ac yn y ddogfen Cymru'n Un mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd eisoes a dyletswydd statudol i Ddatblygu Cynaliadwy, yn ymrwymo i fynd i'r afael a newid hinsawdd, ac mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i ynni adnewyddadwy.
Mae cefndir yr ymchwil hwn yn ymestyn yn ôl cyn hynny at y galw i gynyddu'r
canran o ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru fel sy'n cael ei
amlinellu yn nogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru 'Dechrau byw yn wahanol'
(2000b). Ffurfiwyd partneriaeth rhwng CAZS Adnoddau Naturiol ym Mhrifysgol
Bangor a Cymad, cwmni datblygu gwledig i Wynedd er mwyn ceisio cynyddu
cydiad ynni adnewyddadwy yng Ngwynedd. Mae'r ymchwil hwn felly yn
canolbwyntio ar ddatblygu ynni cynaliadwy yng 61 Ngogledd Orllewin Cymru, gydag ambell ran yn benodol am Wynedd ond gyda golwg ar y darlun Cymru gyfan. Felly, cynlluniwyd yr ymchwil hwn fel bod y canlyniadau a'r darganfyddiadau yn berthnasol i ardaloedd llai trefol Cymru yn gyffredinol.
Mae pwnc yr ymchwil yn un eang ac felly roedd yn rhaid cyfyngu'r ymdriniaeth i'r
hyn sy'n berthnasol i Gymru er bod ychydig o gefndir am ynni adnewyddadwy yn
gyffredinol i'w weld ym Mhennod 2. Canolbwyntia'r astudiaeth ar ffynonellau ynni adnewyddadwy sy'n darparu trydan neu wres yn hytrach na thanwyddau ar gyfer trafnidiaeth. Mewn gwirionedd un arf ar gyfer lleihau allyrron carbon deuocsid yng Nghymru yw cynyddu'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy a chydnabyddir bod gan ddulliau eraill fel arbed ynni a micro-gynhyrchu rôl bwysig i chwarae, ond mae'r rhain tu hwnt i ffiniau'r astudiaeth hon.
Mae'r thesis hwn wedi cael ei rannu i naw pennod, gydag adrannau yn cynnwys
cyflwyniad, methodoleg, canlyniadau a thrafodaeth, ym mhob pennod. Gyda'r fframwaith yma mae gorgyffwrdd rhwng rhai rhannau yn anochel.
Ym Mhennod 1 eglurir cefndir yr astudiaeth hon a'r hyn sy'n cael ei gynnwys ynddo ac mae Pennod 2, sef yr adolygiad llenyddiaeth yn egluro cefndir yr angen i ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Yn y rhan gyntaf mae'n ei roi mewn cyd-destun rhyngwladol a chenedlaethol gan fanylu ar hanes defnydd ynni a'r problemau sy'n gysylltiedig gyda defnyddio tanwyddau traddodiadol. Yna aiff
ymlaen i egluro 'r rhwystrau a'r problemau sy'n cael eu cysylltu gyda datblygu ynni adnewyddadwy. Caiff y bylchau presennol yn yr ymchwil eu hamlinellu yn niwedd y bennod hon ynghyd ag amcanion yr astudiaeth hon.
Gwelir manylion am y fethodoleg gyffredinol ym Mhennod 3 ac amlinellir y prif
ddulliau defnyddiwyd yn yr ymchwil sef Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol,
holiaduron, astudiaethau achos a chyfweliadau.
Mae Pennod 4 yn archwilio'r potensial i gynyddu'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu o
ffynonellau ynni adnewyddadwy yng Ngwynedd yn fasnachol. Dangoswyd y gwir
botensial sef beth ellir ei ddatblygu wrth ystyried y rhwystrau ymarferol sy'n wynebu datblygwyr yng Ngwynedd ar hyn o bryd.
Detholiad o astudiaethau aches cynlluniau ynni adnewyddadwy sydd ym Mhennod 5. Mae'r rhain yn amrywio o ran oedran, ffynhonnell, datblygwyr a'r graddau mae'r gymuned leol wedi cael ei ymgynghori a'u cynnwys yn y cynlluniau.
Nod Pennod 6 oedd darganfod beth oedd barn y cyhoedd am ynni adnewyddadwy yn gyffredinol, eu lefel gwybodaeth, pryderon a dyheadau o ffynonellau ynni amgen yn y dyfodol. Ceisiwyd penderfynu os oedd gwahaniaeth rhwng siaradwyr Cymraeg a'r garfan ddi-gymraeg yng nghymunedau Gogledd Orllewin Cymru.
Gwelir ym Mhennod 7 ymateb y cyhoedd i gynlluniau ynni adnewyddadwy yn eu
hardaloedd. Mae'r cynlluniau yn amrywio o ran oedran, maint, ffynhonnell ynni a
datblygwyr.
Ym Mhennod 8 canolbwyntir ar gynlluniau ynni adnewyddadwy perchnogaeth leol, gan edrych ar y manteision a'r rhwystrau i'r math yma o gynlluniau. Aseswyd y model gorau er mwyn datblygu cynlluniau perchnogaeth leol lwyddiannus.
Mae Pennod 9, y bennod olaf, yn cyfosod yr holl ddarganfyddiadau wrth grynhoi'r prif themau sy'n ymddangos yn ystod yr astudiaeth ac ystyried y materion hyn yn y darlun ehangach. Cyhoeddwyd Trywydd Ynni Adnewyddadwy Cymru (2008) sef ffrwyth yr ymgynghoriad ar y ffordd ymlaen i Gymru wyrddach a llai gwastraffus yng Ngorffennaf eleni ac felly cynhwyswyd ym Mhennod 9 sylwebaeth ar fwriadau'r llywodraeth yng ngoleuni casgliadau'r ymchwil hwn.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Noddwyr traethodau hir
  • European Social Fund
Dyddiad dyfarnuTach 2008